Un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil Tai (Cymru)

Cyhoeddwyd 21/03/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil Tai (Cymru)

21 Mawrth 2014

Mae un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cytuno ag egwyddorion cyffredinol y Bil Tai (Cymru), ond mae’n gwneud 40 o argymhellion i Lywodraeth Cymru gyda’r nod o wella effeithiolrwydd y ddeddfwriaeth.

Bydd y Bil yn cyflwyno cynllun cofrestru a thrwyddedu gorfodol ar gyfer y sector rhentu preifat, yn diwygio’r gyfraith yng nghyswllt digartrefedd ac yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu safleoedd ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr.

Daeth y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i’r casgliad y dylai tenantiaid yn y sector rhentu preifat allu disgwyl i’w llety gyrraedd safon foddhaol, ac mae hynny’n arbennig o bwysig o gofio y bydd rhagor o bobl, gan gynnwys rhai o’r bobl sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau, yn denantiaid preifat yn y dyfodol.

Mae’r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio’r Bil er mwyn nodi’n glir sefyllfa gyfreithiol y tenant mewn achosion pan fo trwydded y landlord yn cael ei dirymu. O dan y cynllun drwyddedu, ni fydd yn rhaid i denantiaid dalu rhent os na fydd trwydded gan eu landlord. Mewn achosion o’r fath, mae’r Pwyllgor am sicrhau y bydd tenantiaid yn dal i gael eu diogelu, yn enwedig rhag y bygythiad o gael eu troi allan.

Mae’r Pwyllgor hefyd am wybod sut y bwriedir talu am gamau gorfodi yn erbyn landlordiaid ac asiantau sy’n torri amodau’r cynllun drwyddedu. Rhoddodd Llywodraeth Cymru wybod i’r Pwyllgor na fyddai’n darparu arian ychwanegol i awdurdodau lleol, a’r bwriad yw defnyddio ffioedd cofrestru’r cynllun ei hun i dalu am y costau hynny. Mae Aelodau’r Cynulliad wedi gofyn am gyhoeddi esboniad cynhwysfawr o’r trefniadau ariannu cyn cam nesaf y broses ddeddfwriaethol.

"Mae’r Pwyllgor yn cytuno ag egwyddorion cyffredinol y Bil Tai (Cymru)," meddai Christine Chapman AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol.

"Fodd bynnag, wrth wneud hynny, hoffem gael eglurhad ynglyn â rhai o elfennau’r Bil, yn enwedig o ran diogelu hawliau tenantiaid os bydd trwydded eu landlord yn cael ei dirymu.


"Rydym hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi esboniad cynhwysfawr o’r ffordd yr ariennir y cynllun trwyddedu hwn.


"Rwy’n edrych ymlaen at glywed yr hyn y bydd gan fy nghyd-Aelodau o’r Cynulliad i’w ddweud pan ddaw’r cyfle nesaf i drafod y Bil yn y Siambr."

Yng nghyfnod 1 y broses ddeddfwriaethol, mae un o bwyllgorau’r Cynulliad yn ystyried a oes angen cyflwyno deddf, neu a ellir addasu deddfwriaeth bresennol yn lle gwneud hynny. Mae hefyd yn ystyried a fydd y Bil yn cyflawni’r amcanion a nodir. Yna bydd y Cynulliad cyfan yn trafod y Bil cyn cynnal pleidlais i benderfynu a ddylai barhau drwy’r broses ddeddfwriaethol ai peidio.

Yng nghyfnod 2 a chyfnod 3, mae Aelodau’r Cynulliad yn cael cyfle i awgrymu gwelliannau i’r Bil, yn gyntaf drwy bwyllgor ac yna yn ystod y Cyfarfod Llawn.

Yng nghyfnod 4, mae’r Cynulliad cyfan yn cynnal pleidlais i benderfynu a ddylai’r Bil droi’n ddeddf ai peidio.

Gellir gweld rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yma.

Gellir gweld rhagor o wybodaeth am y Bil Tai (Cymru) yma.

Mae linc i ragor o wybodaeth am broses ddeddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol ar gael yma.