Un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn clywed tystiolaeth yn Wrecsam
29 Mehefin 2012
Bydd Pwyllgor Deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ymweld â’r gogledd ddwyrain ddydd Llun 2 Gorffennaf i glywed tystiolaeth mewn cyfarfod cyhoeddus yn Wrecsam.
Bydd y Pwyllgor, o dan gadeiryddiaeth William Powell AC, yn clywed tystiolaeth gan fyfyrwyr o Goleg Llandrillo am gostau teithio ar fws i fyfyrwyr, a thystiolaeth gan aelodau o Dîm Adfer Caffi Bae Colwyn am eu profiad o adfer hen adeilad.
Yn ystod y cyfarfod yn Theatr Stiwt, Rhosllannerchrugog, Wrecsam, bydd deisebau newydd ar bynciau fel parthau cadwraeth morol, hen senedd-dy Dolgellau, a phrofi awyrennau di-griw yn cael eu trafod gan y Pwyllgor am y tro cyntaf.
Mae croeso i’r cyhoedd fod yn bresennol. Er mwyn neilltuo sedd ffoniwch 0845 010 5500 neu anfonwch neges e-bost at archebu@cymru.gov.uk.