Un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil Trawsblannu Dynol (Cymru)
25 Mawrth 2013
Mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad Cenedlaethol wedi cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil Trawsblannu Dynol (Cymru).
Mae’r Bil yn cynnig newid y system rhoi organau bresennol o un lle mae unigolion yn optio i mewn ar gyfer rhoi organau ar ôl marwolaeth, i system o gydsyniad tybiedig. Byddai ‘cydsyniad tybiedig’ yn ei gwneud yn ofynnol bod unigolion yn datgan eu bod am optio allan os nad oeddent eisiau rhoi eu horganau. Fodd bynnag, byddai teuluoedd yn parhau i gael rôl o ran darparu gwybodaeth am ddymuniadau eu hanwyliaid.
Wrth gytuno ar yr egwyddorion cyffredinol, pwysleisodd y Pwyllgor na fyddai’r Bil ynddo’i hun yn ddigon i gynyddu’r gyfradd rhoi organau yng Nghymru ond byddai’n un elfen o gyfres o fentrau, gan gynnwys addysgu pobl a chynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd am y mater hwn. Byddai Llywodraeth Cymru hefyd yn gyfrifol am weithredu’r mesurau hyn.
Cododd y Pwyllgor bryderon am agweddau eraill ar y Bil hefyd, gan gynnwys pryderon ynghylch cydsyniad ar gyfer rhoi organau, a’r lefelau o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ymysg y cyhoedd sy’n angenrheidiol i sicrhau bod cydsyniad tybiedig yn ddichonadwy.
Galwodd y Pwyllgor am ragor o eglurder am rôl y teulu a ffrindiau mewn perthynas â cydsyniad tybiedig ar gyfer rhoi organau. Pwysleidiodd y Pwyllgor yr angen i’r Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol fod yn glir ac yn gyson ynghylch a fyddai teuluoedd yn gallu darparu gwybodaeth am ddymuniadau eu hanwyliaid neu a fyddai ganddynt feto i atal organau rhag cael eu rhoi.
Mae’r Pwyllgor yn credu bod angen rhagor o fanylion ac eglurder gan Gweinidog i roi mwy o hyder i’r cyhoedd am system o gydsyniad tybiedig ac i ddarparu sicrwydd i staff meddygol.
Codwyd pryderon pellach am oblygiadau ariannol y Bil, ei effaith bosibl ar gapasiti gofal critigol yng Nghymru a’r gyllideb a neilltuir ar gyfer ymgyrch i godi ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd.
Mae aelodau’r Pwyllgor wedi gofyn i Lywodraeth Cymru ailystyried yr ymgyrch gyfathrebu ac addysg. Mae pryderon yn parhau o ran a yw’r cynnig presennol yn ddigonol i sicrhau bod y cyhoedd yn gwbl ymwybodol o sut y bydd y Bil yn effeithio arnynt, beth yw eu hopsiynau a pha gamau y gallant eu cymryd mewn perthynas â’r opsiynau hynny.
Nid oedd penderfyniad y Pwyllgor i gefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) yn unfrydol. Pleidleisiodd dau o aelodau’r Pwyllgor yn erbyn y cynnig hwn.
Dywedodd Vaughan Gething AC, Cadeirydd Dros Dro y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, “Mae’r broses o edrych ar y Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) wedi bod yn un anodd a heriol ond rydym wedi cytuno, drwy fwyafrif clir, y dylai fynd ymlaen at gyfnod nesaf y broses ddeddfu.
“Mae sefydliadau ac unigolion o bob ochr i’r ddadl sensitif hon, sydd hefyd yn un emosiynol ar adegau, wedi mynegi pwyntiau grymus o blaid ac yn erbyn y Bil.
“Fodd bynnag, ni allwn anwybyddu prif amcan y Bil, sef yr angen i gynyddu cyfraddau rhoi organau yng Nghymru ac arbed mwy o fywydau. Roedd hwnnw’n bwynt yr oedd pawb yn cytuno arno.
“Mae gan y Pwyllgor bryderon sylweddol am sut y mae’r materion o gydsyniad wedi cael eu nodi a’u hegluro. Yn arbennig, rydym yn parhau i bryderu am rôl y teulu a ffrindiau.
“Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i nodi ei safbwynt mewn ffordd clir a chyson o hyn ymlaen. Os na fydd yn glir ac yn gyson, mae perygl gwirioneddol na fydd gan y cyhoedd hyder mewn system o gydsyniad tybiedig. Mae’r un mor bwysig bod staff meddygol yn cael gwybodaeth eglur gan mai nhw fydd yn ymdrin â’r sefyllfaoedd anodd hyn.
"Rydym hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ail-ystyried ei chynigion ar gyfer rhaglen gyhoeddusrwydd Cymru gyfan i roi gwybodaeth i’r cyhoedd am sut y bydd y Bil yn effeithio arnynt. Nid ydym yn argyhoeddedig bod y rhaglen yr ydym wedi cael gwybodaeth amdani’n ddigonol i gyflawni amcanion y Llywodraeth. Mae hyn yn hanfodol o ystyried barn y Llywodraeth ei hun am y lefel o wybodaeth sydd ei angen ar y cyhoedd er mwyn i’r system o gydsyniad tybiedig weithio’n ymarferol."
Bydd y Cynulliad llawn yn cynnal dadl ar y Bil cyn yr aiff ymlaen i Gyfnod 2 o’r broses ddeddfu, pan gaiff ei ystyried yn fanylach a phan gaiff Aelodau’r Cynulliad gyflwyno gwelliannau arfaethedig i’w hystyried gan bwyllgor.
Linc i ragor o wybodaeth am y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Linc i ragor o wybodaeth am y Bil Trawsblannu Dynol (Cymru)
Linc i ragor o wybodaeth am broses ddeddfu’r Cynulliad Cenedlaethol