Un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn galw am ganllawiau llymach ynghylch sŵn, i warchod pobl sy’n byw yn agos at dyrbinau gwynt

Cyhoeddwyd 30/05/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn galw am ganllawiau llymach ynghylch sŵn, i warchod pobl sy’n byw yn agos at dyrbinau gwynt

30 Mai 2012

Mae Pwyllgor Deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi galw am ddiffodd tyrbinau gwynt diffygiol yn y nos a chyflwyno pellter clustogi er mwyn gwarchod pobl sy’n byw yn agos atynt.

Nodwyd yr argymhellion mewn adroddiad a luniwyd mewn ymateb i ddeiseb oedd yn galw am ragor o reolaeth dros sŵn o dyrbinau gwynt. Casglodd y ddeiseb dros 1000 o lofnodion.

Daeth y Pwyllgor i’r casgliad y gellid defnyddio camau o’r fath pe bai Llywodraeth Cymru’n newid canllawiau cynllunio statudol mewn cysylltiad â thyrbinau diffygiol a chlustogfeydd.

Mae’r Pwyllgor yn sylweddoli bod gan Lywodraeth Cymru bwerau dros faterion cynllunio mewn cysylltiad â lleoli tyrbinau ar y tir, sy’n cynhyrchu llai na 50 Megawat yn unig, ond clywodd nad yw’r diflastod o ran sŵn bob amser yn gymesur â maint y tyrbin.

Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad ar y mater, ac, o ganlyniad i gael nifer sylweddol o ymatebion i’r ymgynghoriad o bentref Gwyddgrug yn Sir Gaerfyrddin, fe fu ar ymweliad â dwy fferm wynt yn yr ardal.

Cafodd y Pwyllgor nifer aruthrol o ymatebion gan bobl a oedd yn honni bod sŵn o dyrbinau gwynt yn effeithio ar eu cwsg ac yn amharu ar eu bywyd bob dydd.

“Clywsom fod rhai pobl nad oeddent bellach yn mwynhau bod allan yn eu gerddi eu hunain, ac roedd eraill yn ofni y byddai eu cartrefi’n colli’u gwerth, a rhai yn cael trafferthion cysgu a fyddai’n arwain at broblemau iechyd meddwl ac iechyd corfforol,“ meddai William Powell AC, Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau.

“Mae iechyd a lles pobl sy’n byw yng Nghymru yn brif flaenoriaeth gennym, ac mae’n hanfodol bod pobl sy’n byw yn agos i dyrbinau gwynt yn cael eu gwarchod.

“Mae’r Pwyllgor yn cydnabod pa mor bwysig yw sicrhau ffynonellau ynni gwyrdd i ddiwallu ein hanghenion o ran ynni yn y dyfodol, fodd bynnag, ni ddylid gwneud hyn ar draul iechyd pobl.”

Mae’r Pwyllgor yn croesawu ystyriaeth y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd o’r mater ehangach o bolisi ynni yng Nghymru ac yn edrych ymlaen at adroddiad y Pwyllgor ar y mater, a gaiff ei gyhoeddi cyn bo hir.