Un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol yn galw am gosbau llymach am dorri Cod Ymddygiad yr Aelodau

Cyhoeddwyd 15/05/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol yn galw am gosbau llymach am dorri Cod Ymddygiad yr Aelodau

15 Mai 2013

Mae un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi dweud y dylai'r Cynulliad gael ystod ehangach o sancsiynau i gosbi Aelodau a geir yn euog o dorri'r Cod Ymddygiad.

Mae'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad wedi argymell y dylai'r Cynulliad gael yr hawl i wahardd Aelodau mewn achosion o dorri'r Cod Ymddygiad, ac eithrio achosion sy'n ymwneud â buddiannau ariannol neu fuddiannau eraill a gwmpasir gan y Rheolau Sefydlog ar hyn o bryd. Y Rheolau Sefydlog yw'r rheolau sy'n penderfynu sut y mae'r Cynulliad yn gweithredu.

Mae'r Pwyllgor hefyd am feddu ar y gallu i argymell, os oes angen, bod y Cynulliad yn defnyddio ei bwerau o dan Adran 31(4) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i dynnu yn ôl hawliau a breintiau unrhyw Aelod sy'n torri'r Cod Ymddygiad. Gallai'r hawliau a'r breintiau hyn gynnwys yr hawl i gael mynediad at adeiladau'r Cynulliad neu'r hawl i gynrychioli'r Cynulliad mewn digwyddiadau. Byddai'r cosbau hyn y tu hwnt i'r cam o dynnu cyflog yr Aelod yn ôl, sef y gosb sy'n gysylltiedig â chael gwaharddiad.

Mae'r adroddiad hwn yn dilyn argymhelliad gan y Comisiynydd Safonau annibynnol, sy'n argymell bod y Cynulliad yn adolygu ei weithdrefnau.

Cafwyd cefnogaeth eang ar gyfer y cynigion hyn mewn ymgynghoriad a gynhaliwyd gyda phob un o'r 60 Aelod Cynulliad.

Dywedodd Mick Antoniw AC, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: "Mae argymhellion y Pwyllgor yn dangos ein hymrwymiad i greu Cynulliad Cenedlaethol lle mae'r Aelodau'n atebol am eu gweithredoedd os nad ydynt yn cyrraedd y safonau uchel sy'n ddisgwyliedig ohonynt gan eu hetholwyr.

"Byddai'r gwelliannau hyn i'r gyfundrefn sancsiynau yn unioni gweithdrefnau'r Cynulliad â gweithdrefnau deddfwrfeydd eraill y DU, ac mae'r Pwyllgor yn falch gyda'r ymateb a'r gefnogaeth a gafodd gan y Llywydd, Aelodau'r Cynulliad a'r Comisiynydd Safonau mewn perthynas â'r adroddiad hwn.

"Rydym yn gobeithio gweld ein hargymhellion yn cael eu cymeradwyo gan y Pwyllgor Busnes ac yn cael eu hymgorffori yn y Rheolau Sefydlog."

Bydd adroddiad y Pwyllgor yn cael ei ystyried gan Bwyllgor Busnes y Cynulliad, ac os cytunir ar yr argymhellion, bydd angen i ddwy ran o dair o'r Aelodau sy'n pleidleisio i gymeradwyo gwelliannau i'r Rheolau Sefydlog yn y Cyfarfod Llawn.

Linc i ragor o wybodaeth am y Pwyllgor Safonau Ymddygiad

Linc i ragor o wybodaeth am y Comisiynydd Safonau