Un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol yn galw am gynllun gweithredu i gynyddu cyfranogiad yn y celfyddydau yng Nghymru

Cyhoeddwyd 29/01/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol yn galw am gynllun gweithredu i gynyddu cyfranogiad yn y celfyddydau yng Nghymru

29 Ionawr 2013

Mae un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddyfeisio cynllun gweithredu i gynyddu cyfranogiad pobl yn y celfyddydau yng Nghymru.

Gyda gostyngiad sylweddol mewn cyllid, canfu'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol fod llawer o awdurdodau lleol a sefydliadau celfyddydol ledled y wlad wedi methu â chynnal nifer ac ehangder y prosiectau a fu yn ystod y blynyddoedd blaenorol.

Mae llawer o awdurdodau lleol yn methu fforddio talu i artistiaid proffesiynol am berfformiadau a gwasanaethau ac yn lle hynny, maent yn dibynnu ar wirfoddolwyr i gynorthwyo lle mae hynny'n bosibl.

Nododd y Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud rhywfaint o gynnydd o ran cynyddu hygyrchedd mentrau celfyddydol, ond daeth i'r casgliad nad oedd hynny'r un fath â chynyddu cyfranogiad pobl yn y celfyddydau.

Cydnabu'r Pwyllgor hefyd y penderfyniadau anodd sy'n wynebu Cyngor Celfyddydau Cymru yn sgîl y toriadau mewn cyllid. Gwnaeth argymhelliad bod Cyngor y Celfyddydau'n gweithio gyda sefydliadau i gael mynediad at ffynonellau ariannu eraill, gan gynnwys y rheini a allai fod ar gael gan y sector preifat.

Yn rhannol gysylltiedig â'r toriadau mewn cyllid, credai rhai a gyfrannodd i'r ymchwiliad fod cyfranogiad yn y celfyddydau yn broblem arbennig mewn ardaloedd gwledig oherwydd y diffyg cyfleoedd a hygyrchedd gwael drwy gysylltiadau trafnidiaeth.

"Mae sector y celfyddydau yng Nghymru yn ffyniannus ac yn amrywiol ac mae ganddo le hanfodol yn ein hanes a'n diwylliant," meddai Ann Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol.

"Clywsom am y rhan bwysig y mae rhaglenni celfyddydol a chyfleoedd yn eu chwarae ym mywydau pobl o amgylch y wlad a faint o'r cyfleoedd hynny sydd wedi diflannu yn yr hinsawdd economaidd bresennol.

"Credwn y gall, ac y dylai Llywodraeth Cymru, wneud mwy i sicrhau nad yw pobl o gymunedau gwledig dan anfantais o ran gallu cymryd rhan mewn ymdrechion diwylliedig.

"Daeth y Pwyllgor i'r casgliad hefyd y gallai Cyngor Celfyddydau Cymru roi mwy o gymorth ac arweiniad i sefydliadau o ran canfod ffynonellau ariannu eraill a chael mynediad atynt."

Mae’r Pwyllgor yn gwneud 8 o argymhellion yn ei adroddiad gan gynnwys:

  • Dylai Llywodraeth Cymru roi ar waith gynllun gweithredu ar gyfranogi, ochr yn ochr â'i gynllun gweithredu hygyrchedd, gyda'r diben o gynyddu lefelau cyfranogi ledled Cymru.

  • Dylai'r cynllun gweithredu gynnwys mesurau i fonitro lefelau cyfranogi ar draws y celfyddydau, a chamau gweithredu i ganfod anghydraddoldeb yn y ddarpariaeth (e.e. oherwydd rhesymau daearyddol, economaidd neu gymdeithasol).

  • Dylai Cyngor Celfyddydau Cymru barhau i adolygu ei bolisïau ariannu, er mwyn sicrhau ei fod yn darparu rhagoriaeth, tra'i fod yn cynyddu lefelau cyfranogiad; a,

  • Dylai Cyngor Celfyddydau Cymru sicrhau y gall sefydliadau gael mynediad at wybodaeth am ffynonellau ariannu eraill. Dylai hyn fod ar ffurff hyfforddiant, os oes angen.

Linc i ragor o wybodaeth am yr ymchwiliad i gyfranogiad yn y celfyddydau

Linc i ragor o wybodaeth am y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol.