Un o bwyllgorau’r Cynulliad i gynnal ymchwiliad undydd i atal cleifion rhag datblygu thrombo-emboledd gwythiennol yn yr ysbyty

Cyhoeddwyd 23/05/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Un o bwyllgorau’r Cynulliad i gynnal ymchwiliad undydd i atal cleifion rhag datblygu thrombo-emboledd gwythiennol yn yr ysbyty

23 Mai 2012

Bydd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad undydd a fydd yn ymchwilio i atal thrombo-emoboledd gwythiennol (VTE) ddydd Iau 24 Mai.

Mae thrombo-emboleddau gwythiennol yn cynnwys Thrombosis Gwythiennau Dwfn (DVT) ac Emboledd Ysgyfeiniol (PE). Mae’r ddau gyflwr yn ymwneud â chlotiau gwaed yn blocio rhydwelïau yn y corff ac yn gyfrifol am rhwng 25, 000 a 32, 000 o farwolaethau’r flwyddyn yn y DU.

Mae Lifeblood: The Thrombosis Charity yn amcangyfrif bod dwy ran o dair o’r marwolaethau o ganlyniad i thrombosis yn achosion lle mae’r claf wedi datblygu’r cyflwr yn yr ysbyty. Felly dyma fydd canolbwynt ymchwiliad y Pwyllgor.

Bydd y Pwyllgor yn clywed tystiolaeth yn ystod sesiwn diwrnod cyfan gan archwilio’r modd y rhoddir canllaw’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Glinigol ar waith a pha mor ddigonol yw offeryn asesu risg 1000 o Fywydau a Mwy, sy’n cael ei ddefnyddio ledled Cymru i leihau’r risg o gleifion yn datblygu clotiau gwaed.