Un o bwyllgorau’r Cynulliad yn craffu ar Gynllun Cymorth i Ffermwyr mewn cyfarfod cyhoeddus yn Nolgellau
11 Chwefror 2010
Mae Is-bwyllgor Datblygu Gwledig Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal cyfarfod cyhoeddus yn Nolgellau ddydd Mawrth 16 Chwefror fel rhan o’i ymchwiliad i Glastir – cynllun newydd Llywodraeth Cymru i gefnogi ffermwyr, y mae disgwyl iddo ddechrau yn 2010.
Gwahoddir aelodau o’r cyhoedd i ddod i’r cyfarfod i glywed y trafodion yn yr oriel gyhoeddus.
Bydd nifer o sefydliadau yn cyflwyno tystiolaeth i’r pwyllgor, gan gynnwys Cyswllt Amgylchedd Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Grwp Ymgynghoriad Ffermio a Bywyd Gwyllt Cymru, NFU Cymru, Undeb Amaethwyr Cymru, Clybiau Ffermwyr Ifanc a’r Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad.
Bydd Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas yn bresennol hefyd.
Mae’r meysydd sydd o ddiddordeb i’r Pwyllgor yn cynnwys: pa mor hygyrch yw’r cynllun; y cyfarfwyddiadau i ffermwyr ynglyn â beth sydd ar gael o dan y cynllun Glastir; y cynnydd o 20 y cant yn y taliadau i ffermwyr mewn ardaloedd llai ffafriol; yr amserlen ar gyfer gweithredu’r cynllun; targedu grantiau cyfalaf mewn tri maes penodol (Ynni adnewyddadwy a defnyddio ynni'n effeithlon ar y fferm, gwella mynediad ac addysg, a gwella’r modd yr ymdrinnir â gwrtaith a biswail); a’r trefniadau ar gyfer trawsnewid.
Bydd y cyfarfod yn dechrau am 13.30 ddydd Mawrth 16 Chwefror yn Ysgol y Gader, Dolgellau, Gwynedd, LL40 1HY.
Er mwyn archebu’ch sedd:
– ffoniwch y Linell Archebu ar 0845 010 5500; neu
– anfonwch e-bost: archebu@cymru.gsi.gov.uk
Am ragor o fanylion, cysylltwch â ruraldev.comm@cymru.gsi.gov.uk neu ffoniwch 02920 898185