Un o Bwyllgorau’r Cynulliad yn dechrau ymchwiliad i leihau’r risg o strôc

Cyhoeddwyd 22/09/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Un o Bwyllgorau’r Cynulliad yn dechrau ymchwiliad i leihau’r risg o strôc

22 Medi 2011

Ddydd Iau (22 Medi), bydd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn dechrau casglu tystiolaeth fel rhan o’i ymchwiliad i leihau’r risg o strôc yng Nghymru.

Bydd y Pwyllgor yn clywed tystiolaeth gan y Gymdeithas Strôc yng Nghymru a’r Gymdeithas Ffibriliad Atrïaidd fel rhan o’r ymchwiliad, a fydd yn archwilio’r gwasanaethau a ddarperir ar hyn o bryd i leihau’r risg o strôc yng Nghymru ac effeithiolrwydd polisïau Llywodraeth Cymru yn y maes hwn.

Bydd tystiolaeth y Gymdeithas Ffibriliad Atrïaidd yn canolbwyntio ar rinweddau lansio rhaglen sgrinio am ffibriliad atrïaidd yng Nghymru, sef maes sydd o ddiddordeb i’r Pwyllgor.

Caiff cyfarfod y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ei gynnal am 09.30 yn Ystafell Bwyllgora 1.