Un o bwyllgorau’r Cynulliad yn mynegi pryder ynghylch pa mor fforddiadwy yw cyllideb Llywodraeth Cymru
08 Tachwedd 2012
Mae un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi mynegi pryder am ba mor fforddiadwy yw cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-14.
Mae aelodau’r Pwyllgor Cyllid yn parhau i fod heb eu hargyhoeddi y bydd gwariant arfaethedig Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf yn ddigonol i gyflawni ei rhaglen arfaethedig.
Yn arbennig, cred y Pwyllgor na fydd Byrddau Iechyd Lleol Cymru’n cadw o fewn eu cyllideb eleni ac felly bydd yn rhaid tynnu arian o feysydd eraill yng nghynlluniau Llywodraeth Cymru.
Amlygodd y dystiolaeth i’r Pwyllgor ddiffyg paratoi amlwg o ran sefydlu pa elfennau o’r gyllideb fydd yn cael blaenoriaeth pe bai angen rhagor o gyllid ar gyfer Byrddau Iechyd Lleol.
Mynegir pryder hefyd ynghylch y gwahaniaeth rhwng darpariaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y costau i awdurdodau lleol o roi deddfwriaeth newydd arfaethedig ar waith ac amcangyfrifon yr awdurdodau lleol eu hunain.
"Nid yw’r Pwyllgor wedi’i argyhoeddi y bydd y gyllideb ddrafft hon yn ddigonol ar gyfer popeth y mae Llywodraeth Cymru’n dymuno’i gyflawni yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf," meddai Jocelyn Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid.
"Testun pryder arbennig yw’r dystiolaeth sy’n awgrymu na fydd Byrddau Iechyd Lleol Cymru’n dod o fewn eu targed eleni. Credwn y dylid rhoi ystyriaeth bellach i ba feysydd ac adrannau fydd yn cael eu gwasgu os a phan fydd cyllidebau’n dynn.
"Rydym hefyd yn dymuno gweld mwy o eglurhad o ran graddfa costau rhoi deddfwriaeth ar waith yn y dyfodol ar gyfer awdurdodau lleol gan ei bod yn ymddangos bod gwahaniaeth mawr ar hyn o bryd rhwng amcangyfrifon Llywodraeth Cymru ac amcangyfrifon awdurdodau lleol."
Linc i ragor o wybodaeth am y Pwyllgor Cyllid.
Linc i ragor o wybodaeth am graffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru.