Un o bwyllgorau'r Cynulliad yn pryderu am y diffyg manylder yng nghynlluniau gaeaf byrddau iechyd Cymru

Cyhoeddwyd 20/12/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Un o bwyllgorau'r Cynulliad yn pryderu am y diffyg manylder yng nghynlluniau gaeaf byrddau iechyd Cymru

20 Rhagfyr 2013

Mae un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi dweud nad oes ganddo hyder bod byrddau iechyd Cymru yn gwbl barod am fisoedd y gaeaf a'r straen ychwanegol sy'n debygol o gael ei roi ar wasanaethau.

Canfu'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol mai dim ond tri allan o'r saith bwrdd iechyd yng Nghymru oedd wedi cyhoeddi cynlluniau gofal heb ei drefnu erbyn dechrau mis Tachwedd, i baratoi ar gyfer y cynnydd a ragwelir yn y defnydd o wasanaethau iechyd yn ystod y gaeaf.

Mewn llythyr at y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol, mae'r Pwyllgor yn mynegi pryderon nad oedd rhai cynlluniau yn ddim mwy na chrynodebau ar ffurf pwyntiau bwled. Dim ond Bwrdd Iechyd Cwm Taf oedd wedi rhyddhau strategaeth fanwl.

Mae pwysau'r gaeaf yn golygu bod 2,600 o lawdriniaethau wedi cael eu canslo yn y GIG yng Nghymru y gaeaf diwethaf oherwydd diffyg gwelyau. Ar gyfer 2013-14, mae Byrddau Iechyd wedi datgan 'capasiti ymchwydd' o tua 460 o welyau, sef gwelyau nad oes ganddynt nawr, ond y gallant fod ar gael os bydd angen.

Mae'r Pwyllgor wedi galw ar i'r ffigwr hwnnw o ran capasiti gael ei rannu fesul bwrdd iechyd er mwyn cael gwell syniad o gapasiti ar gyfer gwahanol rannau o Gymru. Ar ben hynny, mae'r Pwyllgor wedi gofyn am ragor o fanylion ynghylch pa ystyriaethau sy'n cael eu rhoi ar gyfer capasiti ymchwydd yn y gymuned yn ogystal ag yn yr ysbyty.

Mae hefyd yn pryderu nad oes yr un adran Ddamweiniau ac Achosion Brys yng Nghymru yn bodloni safonau'r Coleg Meddygaeth Frys ar hyn o bryd ar gyfer presenoldeb meddyg ymgynghorol mewn adrannau brys. Mae'r Pwyllgor am gael gwybod sut mae Llywodraeth Cymru am fynd i’r afael â hynny.

Dywedodd David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, "Mae pawb yn cydnabod bod misoedd y gaeaf yn rhoi pwysau aruthrol ar ein gwasanaethau iechyd.

"Yn 2012-13, parhaodd y gaeaf tan fis Mai, gan roi pwysau gaeafol estynedig ar ein gwasanaethau iechyd a chymdeithasol ac mae'r Pwyllgor yn cydnabod ei bod yn anodd llunio cynlluniau ar gyfer amgylchiadau eithafol, estynedig fel hyn.

"Fodd bynnag, o gofio profiadau'r llynedd, rydym yn disgwyl y bydd byrddau iechyd Cymru yn fwy parod erbyn hyn ond, nid yw'r dystiolaeth a glywsom yn rhoi llawer o hyder i ni mai felly y mae.

"Hoffem weld cynlluniau llawer manylach ar gyfer gofal heb ei drefnu a darlun llawer mwy cywir o'r capasiti ychwanegol sydd ar gael ym mhob bwrdd iechyd ac yn y gymuned.


"Mae'r ffaith nad oes yr un adran Ddamweiniau ac Achosion Brys yng Nghymru yn bodloni safonau'r Coleg Meddygaeth Frys ar hyn o bryd ar gyfer presenoldeb meddyg ymgynghorol mewn adrannau brys hefyd yn peri pryder i ni, ac rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru beth mae'n bwriadu ei wneud i fynd i'r afael â hynny.

Yn dilyn y llythyr hwn, bydd y Pwyllgor yn cynnal archwiliad arall o ofal heb ei drefnu ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf.