Angen gwella gwasanaethau rheilffordd yng Nghymru, yn ôl adroddiad gan un o bwyllgorau’r Cynulliad
Trenau cyflymach, gwell gorsafoedd a mwy o bwerau i Gymru—dyma rai yn unig o argymhellion adroddiad newydd gan Bwyllgor Menter a Dysgu Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Yn ystod ymchwiliad y Pwyllgor, a barodd ddau fis, clywodd Aelodau dystiolaeth gan Passenger Focus, Trenau Arriva Cymru, Network Rail a’r pedair partneriaeth trafnidiaeth ranbarthol, ymysg eraill.
Dyma rai o 21 o argymhellion y Pwyllgor:
Ystyried systemau rheilffordd ysgafn trefol yng Nghaerdydd, Abertawe a Chasnewydd.
Trydaneiddio’r rheilffyrdd rhwng de Cymru a Llundain, rheilffyrdd ardal Caerdydd a’r cymoedd, a phrif reilffordd y Gogledd.
Uwchraddio twnnel Hafren.
Gwella cysylltiadau a gwasanaethau rhwng y Gogledd a’r De
Cyflwyno cerbydau newydd, yn arbennig ar reilffyrdd y cymoedd.
Datganoli pwerau a’r cyllid cysylltiedig penodol fel y gall Cymru gynllunio a buddsoddi yn uniongyrchol yn seilwaith y rheilffyrdd yn y dyfodol.
Dywedodd Gareth Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Dysgu: “Mae’r adroddiad hwn yn ystyried dyfodol hirdymor y rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru. Mae’r dystiolaeth yr ydym wedi ei chasglu yn dangos y bydd traffig cludo nwyddau a theithwyr yn cynyddu yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod.
“Mae’n bwysig bod Llywodraeth Cymru’n darparu ar gyfer y galw cynyddol hwnnw, a bod Cymru’n manteisio ar gysylltiadau rheilffordd cyflym â gweddill y DU ac Ewrop.
“Yn ogystal, mae angen i Lywodraeth Cymru weithio â phartneriaid i wella cysylltiadau a gwasanaethau rheilffordd rhwng y Gogledd a’r De ac i wneud gorsafoedd yn gwbl hygyrch i’r holl deithwyr.”