Straeon pwerus cenhedlaeth Windrush Cymru i’w clywed mewn arddangosfa ar-lein
Bydd darlith a thrafodaeth banel yn archwilio ac yn dathlu cyfraniad pobl o dras Affricanaidd ac Affricanaidd/Caribïaidd yng Nghymru
Mae'r gweithgareddau'n adlewyrchu themâu Hanes Pobl Dduon Cymru 2020 gydol y flwyddyn, sy’n dechrau ym mis Hydref
Straeon wedi’i hadrodd gan y bobl eu hunain yw canolbwynt arddangosfa ar-lein a fydd yn dathlu sut mae cenhedlaeth Windrush wedi dylanwadu a chyfoethogi bywyd Cymru.
Yn cyd-fynd â dechrau blwyddyn o weithgaredd Hanes Pobl Dduon Cymru 2020, ym mis Hydref mi fydd yr arddangosfa ar-lein Windrush Cymru: dathlu bywydau a siwrneiau cenhedlaeth - Ein Lleisiau, Ein Straeon, Ein Hanes yn cael ei chynnal ar wefan Senedd Cymru, ac mae'n rhan o brosiect Treftadaeth Windrush Race Council Cymru, sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Wedi'i hadrodd yn eu geiriau eu hunain, mae’r arddangosfa'n rhoi cip ar straeon 10 o bobl – sy’n cael eu hadnabod fel hynafiaid Windrush Cymru - a’r daith â ddaeth nhw, neu aelodau o’u teulu, i fyw yng Nghymru yn ystod cyfnod o fewnfudo rhwng 1948 a 1988.
Ar wahoddiad llywodraethau olynol yn y DU, i fynd i’r afael â phrinder llafur, fe benderfynodd llawer o bobl o wledydd Caribïaidd y Gymanwlad fudo i’r DU. Fe’i gelwid yn genhedlaeth Windrush ar ôl llong y ‘HMT Empire Windrush’ a gludodd un o’r grwpiau cyntaf o fudwyr yn 1948.
Mae’r arddangosfa yn dechrau ar ddydd Iau, 1 Hydref 2020, ac ar gael drwy gydol mis Hydref. Mae'r straeon yn ein tywys ar hyd y llwybrau gwahanol a ddaeth â phobl o wledydd y Gymanwlad i fyw yng Nghymru yn ystod y cyfnod hwnnw. Rydym yn dysgu am eu bywydau ar ôl iddyn nhw gyrraedd, yr her o adeiladu bywyd newydd mewn gwlad wahanol iawn i'w mamwlad, y dasg o chwilio am waith ac agwedd cymdeithas tuag atyn nhw bryd hynny a nawr.
Mae'r straeon yn dangos sut maen nhw, a'r cenedlaethau wedyn, wedi gadael eu marc ym mhob agwedd o fywyd: trwy'r swyddi maen nhw'n eu gweithio, gyrfaoedd maen nhw wedi'u hadeiladu, y plant maen nhw'n eu magu a'r cyfraniad maen nhw'n ei wneud i'r gymuned a diwylliant.
WindrushCymru
Mae Anthony
Wayne-Wright o Gaerdydd yn rhannu stori ei dad, a ddaeth i Gymru o
Trelawny, Jamaica yn y 1950au ac a fu’n gweithio ym Mhwll Glo Nantgarw am dros
35 mlynedd.
Cafodd
Daisy Maynard ei geni yn 1925 yn Bassterre, Ynys St Kitts. Roedd hi yn
ei 30au pan symudodd i Gymru gyda ffrindiau yng nghanol y 1950au. Roedd
ei swydd gyntaf yn ffatri Super Oil Seals yna, fe aeth i weithio i Ysbyty
Hamadryad, Caerdydd, i ddilyn gyrfa fel nyrs.
Ganed Roma Taylor yn Antigua, Caribî ac fe ddaeth i Brydain ym 1950 pan roedd hi’n 15 oed. Ar ôl hyfforddi fel nyrs, ymunodd â'r fyddin gan wasanaethu am 25 mlynedd. Hi hefyd yw sylfaenydd a Chadeirydd Hynafiaid Windrush Cymru.
Darllenwch eu straeon nhw a rhagor o'r genedlaeth Windrush
Darlith a thrafodaeth ar-lein
Mi fydd y straeon yma, a’r cannoedd o hanesion tebyg, yn sail i ddarlith gan yr hanesydd Abu-Bakr Madden Al-Shabazz a fydd yn agor ac yn cyd-fynd â’r arddangosfa. Bydd y ddarlith – Hanes y Windrush yng Nghymru - yn cael ei ffrydio o ddydd Iau 1 Hydref, gan nodi diwrnod cyntaf Hanes Pobl Dduon Cymru.
Mi fydd y ddarlith yn digwydd ar-lein am 7.00 yn dydd Iau 1 Hydref ar sianel You Tube y Senedd, ac mi fydd modd gwylio ar y safle yma wedi hynny hefyd.
Yn ddiweddarach yn y mis, ar ddydd Gwener 23 Hydref, bydd y Senedd yn cynnal trafodaeth banel rithwir a fydd yn dod â chyfranwyr o sectorau gwahanol a chefndiroedd eang ynghyd er mwyn trafod a dathlu cyfraniad pobl o ddisgyniad Affricanaidd ac Affrica-Garibïaidd yng Nghymru.
Gwyliwch y ddarlith ar sianel YouTube y Senedd
Windrush ddim wedi’i ystyried yn rhan o fywyd Cymru
Er bod cryn sylw wedi bod yn y cyfryngau yn
ystod y blynyddoedd diwethaf ynghylch hanes y genhedlaeth Windrush yn y DU, nid
yw bob tro’n cael ei gydnabod fel rhywbeth sy'n berthnasol i Gymru. Denu sylw
at y straeon yma a’u rhan allweddol ym mywyd Cymru yw nod Prosiect Treftadaeth
Windrush Race Council Cymru, a dyma yw un o themau darlith Abu-Bakr Madden Al
Shabazz.
Dywedodd Antonia Osuji, Cyngor Hil Cymru, Swyddog Prosiect Windrush Cymru: “Mae’n anrhydedd anhygoel imi gael fy nghroesawu gan yr hynafiaid i wrando, a dogfennu straeon Cenhedlaeth Windrush o lygad y ffynnon. Mae'r straeon yn gofnod hanesyddol ac yn drysor ddiwylliannol i’r genhedlaeth hŷn yn gystal â’r genhedlaeth iau. Mae ymwybyddiaeth ac addysg am yr hanes, y cyfraniadau a phresenoldeb pobl o dras Affricanaidd a Charibïaidd, ac yn wir holl cenhedloedd y Gymanwlad, yn y DU ac yng Nghymru, mor bwysig; ac yn rhywbeth y dylem i gyd geisio ei hybu.
“Felly rydym yn falch iawn o weithio gyda’r Senedd ac Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ar yr arddangosfa rithwir hon; a hefyd diolch i Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol am wneud y prosiect hwn yn bosibl.”
Un nod y prosiect yw creu cofnod parhaol o hanes, ac mi fydd straeon arddangosfa Windrush Cymru yn cael eu harchifo gan Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru er mwyn cyfrannu at ffurfio darlun ehangach o fywyd Cymru.
Dywedodd Sioned Hughes, Amgueddfa Cymru - Pennaeth Hanes Cyhoeddus ac Archeoleg Amgueddfa Genedlaethol Cymru: “Mae cenhedlaeth Windrush a’u teuluoedd wedi gwneud cyfraniad amhrisiadwy i Gymru, ac rydym yn falch o weithio gyda Race Council Cymru a’r Senedd i adrodd straeon pwysig yr arddangosfa ar-lein hon. Bydd yr hanesion llafar a gofnodwyd gan brosiect Windrush Cymru yn dod yn rhan o’r casgliad archifau yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, ac rydym yn ddiolchgar iawn i holl hynafiaid Windrush am rannu eu profiadau byw gyda ni ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”
Roedd bwriad i’r arddangosfa Windrush Cymru deithio i wahanol ardaloedd o Gymru, ac roedd adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd ymhlith y lleoliadau ar y daith. Oherwydd COVID-19, mae’r cynnwys wedi'i addasu ar gyfer yr arddangosfa ar-lein hon, sy'n caniatáu i gynulleidfa ehangach fyth ei weld trwy wefan y Senedd.
Meddai Llywydd y Senedd, Elin Jones AS: “Dyma gasgliad o straeon gan bobl gyffredin, ond sydd wedi magu profiadau rhyfeddol fel aelodau o’r genhedlaeth sy’n cael ei alw yn Windrush ac sydd wedi siapio bywyd yng Nghymru.
“Mae’n fraint gwrando, dysgu a chyfoethogi ein dealltwriaeth am brofiadau pob un o ddinasyddion Cymru, ac yn yr achos hwn, dathlu rôl annatod pobl o ddisgyniad Affricanaidd ac Affricanaidd-Caribïaidd wrth ffurfio Cymru heddiw.”
Parhau i gasglu’r straeon ar gyfer y dyfodol
Yr Athro Uzo Iwobi, sylfaenydd Race Council Cymru, wnaeth dechrau prosiect Windrush Cymru ac mae hi wedi cefnogi'r hynafiaid ers blynyddoedd lawer. Fe wnaeth hi ymateb i apêl gan yr hynafiaid a oedd eisiau i’w straeon gael eu cofnodi a’u diogelu ar gyfer eu plant a’u hwyrion. Mae hi'n parhau i gefnogi hynafiaid y Windrush Cymru er mwyn casglu eu straeon ar gyfer y genhedlaeth iau ac mae hi wrth ei bodd fod y prosiect wedi dwyn ffrwyth.
Ynghyd â’r archif ar-lein, mae arddangosfa Windrush
Cymru wedi cael ei threfnu ar gyfer y Senedd ym mis Medi 2021.