Y camau a gymerwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru wrth ddyfarnu contractau pren yn “groes i reswm”

Cyhoeddwyd 26/11/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/11/2018

Mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol yn cadw meddwl agored am yr hyn sydd wrth wraidd methiannau difrifol o ran llywodraethu Cyfoeth Naturiol Cymru.  

Daeth y Pwyllgor i'r casgliad na all diffyg cymhwysedd, ynddo'i hun, esbonio'r camau a gymerwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn achos cyfres o gontractau gwerthu pren gwerth miliynau o bunnau a ddyfarnodd i gwmni cynaeafu pren, a arweiniodd ar gymhwyso cyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru am dair blynedd yn olynol.

Mae'r Pwyllgor yn pwysleisio nad oes ganddo ddigon o dystiolaeth i ddod i gasgliad llawn. Dywed ei fod yn ei chael hi'n anodd deall sut y gallai sefydliad a arweinir gan unigolion hynod brofiadol, gwybodus a medrus wneud yr un camgymeriadau dro ar ôl tro er iddynt gael eu rhybuddio sawl gwaith.

Am y drydedd flwyddyn yn olynol, mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi cymhwyso cyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru. Golyga hynny na allai Archwilydd Cyffredinol Cymru lofnodi eu bod yn gyfrifon dilys a chywir.

Yn 2014, dyfarnodd Cyfoeth Naturiol Cymru gontractau i gwmni melin lifio yn uniongyrchol heb ofyn am dendrau cystadleuol am wneud y gwaith. Dyfarnwyd y contractau ar y sail bod haint ar y pren ac mai bach iawn o werth oedd iddo ac y byddai'r cwmni yn adeiladu melin lifio newydd yng Nghymru, gan greu swyddi newydd.

Barn Archwilydd Cyffredinol Cymru oedd y gallai'r camau a gymerodd Cyfoeth Naturiol Cymru fod yn torri'r rheolau cymorth gwladwriaethol, nad oeddent yn dilyn gweithdrefnau'r sefydliad ei hun, ac na chawsant eu cyfeirio at Lywodraeth Cymru fel sy'n ofynnol gan ei fesurau llywodraethu ei hun.

Hefyd, ni allai Cyfoeth Naturiol Cymru roi wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am hynt y gwaith o adeiladu'r felin newydd, er bod y dyddiad cau ar gyfer gwneud hynny wedi mynd heibio tua'r un adeg ag yr oedd yr uwch-reolwyr yn rhoi tystiolaeth. Nid yw'r felin lifio fyth wedi'i hadeiladu.

Er y methiant hwn, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dyfarnu rhagor o gontractau gwerth miliynau o bunnoedd i'r un cwmni gan honni nad oedd am amharu ar y farchnad.

Hefyd, dywedodd yr uwch-reolwyr wrth y Pwyllgor nad oeddent yn gwybod am bryderon yr Archwilydd Cyffredinol am y dyfarniadau blaenorol er bod y ddau sefydliad wedi cynnal trafodaethau maith cyn dyfarnu'r contractau.

Gan roi dystiolaeth yn ystod yr ymchwiliad, dywedodd David Sulman, Cyfarwyddwr Gweithredol, Cymdeithas Cynhyrchion Coedwig y DU, wrth y Pwyllgor fel a ganlyn:

“I certainly wouldn't call these actions mistakes or oversights, as has been claimed. And it seems to us that these actions were premeditated, deliberate, and made in the full knowledge of the facts and the existence of long-standing and well-understood official procedures around timber marketing. Talking to people in industry, some might even go so far as to say that, in view of the very serious concerns that the Auditor General and his staff—and, indeed, this committee had expressed about NRW's behaviour, their action might amount to almost being contemptuous.”

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymrwymo i sefydlu adolygiad annibynnol o'i ddulliau llywodraethu a'i arferion o ran gwerthu a marchnata pren. Bydd y canfyddiadau'n cael eu defnyddio i sicrhau nad yw'r problemau hyn yn digwydd eto.

"Rydym yn hynod o siomedig, er gwaethaf canfyddiadau adroddiadau blaenorol gan Archwilydd Cyffredinol Cymru a'r Pwyllgor hwn ynghylch ei ymagwedd at drafodion pren, bod cyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cael eu cymhwyso am y drydedd flwyddyn yn olynol,” meddai Nick Ramsay AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

"Mae'n ymddangos bod y pryderon a godwyd yn flaenorol wedi cael eu diystyru, ac ymddengys bod gweithredoedd dilynol Cyfoeth Naturiol Cymru yn mynd yn groes i reswm. 

“Nid oes modd esbonio'r penderfyniadau a wnaed gan staff profiadol yn Cyfoeth Naturiol Cymru, ac mae'n anodd ystyried y camau hyn fel canlyniad diffyg cymhwysedd.

"Mae’n anorfod ein bod yn dod i'r casgliad na fyddwn byth yn deall yn llawn nac yn cael esboniad am yr hyn a ddigwyddodd.”

Mae'r Pwyllgor yn gwneud tri argymhelliad yn ei adroddiad:

- bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhannu canfyddiadau'r adolygiad annibynnol gyda'r Pwyllgor hwn wedi i'r adolygiad ddod i ben. Disgwylir i hynny ddigwydd ddiwedd 2018;

- bod yr adolygiad annibynnol yn cynnwys archwilio a oedd y digwyddiadau yn ymwneud â'r contractau gwerthu pren a ddyfarnwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn fater o ddiffyg cymhwysedd neu esgeulustod proffesiynol; a

- bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn paratoi cynllun gweithredu sy'n esbonio'r newidiadau y bydd yn rhaid eu rhoi ar waith yn dilyn yr adolygiad annibynnol.  

Mae'r Pwyllgor hefyd wedi penderfynu trefnu sesiwn dystiolaeth arall gyda Cyfoeth Naturiol Cymru yn gynnar y flwyddyn nesaf i archwilio'r argymhellion a'r camau gweithredu sy'n deillio o'r adolygiad annibynnol.  

 


 

Darllen yr adroddiad llawn:

Cyfoeth Naturiol Cymru: Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2017-18 (PDF, 549 KB)