Y Cynulliad Cenedlaethol yn arwain y ffordd gyda'r enwau parth ar y rhyngrwyd, sef .Cymru / .Wales

Cyhoeddwyd 21/07/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 30/07/2014

​Gall fod yn un o'r newidiadau mwyaf i'r rhyngrwyd yng Nghymru ers lansio'r we fyd-eang ym 1989.

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn arwain y ffordd yn y chwyldro hwnnw, drwy gytuno i fod yn un o'r rhai cyntaf i ddefnyddio'r enwau parth .Cymru / .Wales.

Bydd Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ymuno ag Ieuan Evans o gwmni cofrestru enwau parth y DU, sef Nominet, a Ken Skates AC, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, i gyhoeddi'r sefydliadau cyntaf a fydd yn defnyddio'r enwau parth ar faes y Sioe Frenhinol ar 21 Gorffennaf.

Dywedodd y Fonesig Rosemary, "Bydd yr enwau parth newydd hyn yn caniatáu i sefydliadau, busnesau ac unigolion ledled Cymru hyrwyddo bod ganddynt bresenoldeb sy'n unigryw Gymreig ar y we.

"Ym myd marchnata a hysbysebu, mae 'brand' yn hanfodol er mwyn gwahaniaethu rhwng sefydliadau a busnesau.

"Bydd cael enw parth Cymreig o gymorth mawr i'r sector preifat a'r sector cyhoeddus yng Nghymru.

"Ni ddylem ychwaith anghofio am y manteision o hyrwyddo cymdeithas sy'n wirioneddol ddwyieithog yng Nghymru, ac mae creu'r enw parth .Cymru yn gyfle amlwg i hyrwyddo'r Gymraeg a diddordebau diwylliannol Cymru, ar y we.

"Rwy'n falch bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn arwain y ffordd yn y datblygiad hwn, drwy gytuno i fod yn un o'r rhai cyntaf i ddefnyddio'r enwau parth newydd.

"Cyn gynted â'i bod yn dechnegol bosibl ar ôl lansiad swyddogol yr enwau parth, bydd y Cynulliad yn newid ei enw parth i Cynulliad.Cymru / Assembly.Wales."

Bydd yr enwau parth newydd ar gyfer y sefydliadau cyntaf i'w mabwysiadu yn mynd yn fyw yn yr hydref. Cânt eu cyflwyno i'r cyhoedd yn fwy cyffredinol o Ddydd Gwyl Dewi 2015 ymlaen.

Dywedodd Ieuan Evans, Cadeirydd Grwp Cynghori Cymru ar gyfer Nominet, "Rydym wrth ein bodd o gyhoeddi y bydd y sefydliadau allweddol hyn o Gymru yn newid eu henwau parth i .Cymru a .Wales cyn gynted â phosibl.

"Mae'r enwau parth yn gyfle gwych i Gymru adael ei hôl ar y byd digidol ac mae'n wych y bydd y cyrff arwyddocaol hyn yn ymuno â ni ar y daith hon ac yn arwain y ffordd ar gyfer busnesau a sefydliadau eraill ledled Cymru."