Y Cynulliad Cenedlaethol yn codi i fod yn drydydd ar y rhestr o’r llefydd mwyaf cyfeillgar i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol weithio yn y DU

Cyhoeddwyd 19/01/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 19/01/2016

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi parhau i fod yn arweinydd o ran hawliau cyfartal, gan godi i’r trydydd safle ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall eleni.

Hefyd, am y drydedd flwyddyn yn olynol, y Cynulliad yw’r Cyflogwr Gorau yn y Sector Cyhoeddus yng Nghymru i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol.

Am y tro cyntaf, mae’r Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle yn cynnwys y gymuned drawsryweddol.

Nododd adroddiad diweddar gan Dŷ’r Cyffredin fod pobl drawsryweddol yn y Deyrnas Unedig yn wynebu lefelau uchel o drawsffobia o ddydd i ddydd.

Dywedodd y Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru: “Mae’r adroddiad hwn yn dangos yr anawsterau y mae pobl drawsryweddol yn eu hwynebu a’r gwaith sydd angen inni ei wneud i drechu’r anghydraddoldeb hwn.

“Felly, roeddwn yn falch iawn o glywed, yn gynharach eleni, fod Stonewall yn bwriadu cynnwys materion trawsryweddol yn ei gylch gwaith.

“Bydd cynnwys mesurau ar yr hyn y mae sefydliadau yn ei wneud ar gyfer staff a defnyddwyr gwasanaethau trawsryweddol yn y Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle yn arwain yn naturiol at ganlyniadau gwell ar gyfer y gymuned.

“Rwyf hefyd yn falch iawn o weld bod 12 o’r 100 cyflogwyr gorau yn y Mynegai wedi’u lleoli yng Nghymru, gan ddangos ein bod, fel gwlad, yn cyflawni’n well na’r disgwyl wrth fynd i’r afael ag anghydraddoldeb.”

Ychwanegodd Sandy Mewies AC, Comisiynydd y Cynulliad sydd â chyfrifoldeb dros faterion ynghylch cydraddoldeb:

“Rwyf wrth fy modd bod ein gwaith rhagorol sy’n parhau o ran hyrwyddo ac annog cydraddoldeb yn y gweithle wedi’n galluogi i godi i fod yn drydydd ar y rhestr o gyflogwyr gorau y DU.

“Rwy’n falch iawn o’n tîm cydraddoldebau ac, wrth gwrs, staff Cynulliad Cenedlaethol Cymru am barhau i arwain y ffordd ym maes cydraddoldeb yn y gweithle yng Nghymru.”

Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Stonewall Cymru:

“Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gyson wedi llwyddo i fod ymhlith y 100 o gyflogwyr gorau ac mae’r sefydliad wedi gwella ei safle bob blwyddyn. 

“Mae bod yn drydydd mewn maes mor gystadleuol o gyflogwyr ledled Prydain Fawr yn dyst i arweinyddiaeth glir a gwaith caled gan dîm ymroddedig o staff. 

“Mae’n gamp anhygoel ac yn dangos sefydliad sydd wedi’i ymrwymo i roi ei werthoedd ar waith a gwasanaethu HOLL bobl Cymru.”

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae’r Cynulliad Cenedlaethol wedi ymgymryd â’r gwaith a ganlyn i sicrhau bod y Cynulliad yn lle sy’n fwy cyfeillgar i bobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsryweddol weithio:

  • Rydym wedi mynd â’n Bws Allgymorth i Pride Cymru a Swansea Pride er mwyn ymgysylltu â’r gymuned LGBT ac annog ymgysylltiad democrataidd;
  • Rydym wedi defnyddio cyfryngau cymdeithasol i hybu cydraddoldeb LGBT ac i ddangos ein hymrwymiad i Fis Hanes LGBT, Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia a Thrawsffobia a Diwrnod Gwelededd Deurywiol;
  • Mae gennym gynllun Cynghreiriaid LGBT lle gall staff nad ydynt yn LGBT ddangos eu hymrwymiad a’u cefnogaeth i gydraddoldeb LGBT;
  • Rydym yn hybu cydraddoldeb LGBT yn fewnol drwy ein polisïau staff cynhwysol, ein hyfforddiant penodol ar gyfer staff LGBT a’n sesiynau codi ymwybyddiaeth;
  • Mae gennym uwch-hyrwyddwr LGBT a nifer o uwch-gynghreiriaid sy’n hybu cydraddoldeb yn fewnol ac yn allanol.

Rhagor o wybodaeth am y ffordd y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn hyrwyddo cydraddoldeb, gan gynnwys ein Cynllun Cydraddoldeb ar gyfer 2012-16.