Y Cynulliad Cenedlaethol yn cryfhau'r system safonau drwy gyflwyno ystod ehangach o sancsiynau

Cyhoeddwyd 02/10/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Cynulliad Cenedlaethol yn cryfhau'r system safonau drwy gyflwyno ystod ehangach o sancsiynau

2 Hydref 2013

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi pleidleisio o blaid cryfhau'r ystod o sancsiynau sydd ar gael i gosbi Aelodau sy'n torri rheolau'r Cynulliad.

Mewn Cyfarfod Llawn a gynhaliwyd yn y Senedd, pleidleisiodd y Cynulliad i ddiwygio ei Reolau Sefydlog er mwyn cynnwys ystod ehangach o sancsiynau ar gyfer achosion o gamymddwyn, ac eithrio materion sy'n ymwneud â buddiannau ariannol neu fuddiannau eraill. Ar hyn o bryd, yr unig sancsiwn sydd ar gael ar gyfer yr achosion eraill hynny o gamymddwyn yw ceryddu'r Aelod.

Ymhlith y sancsiynau a fydd ar gael bydd gwahardd unrhyw Aelod sy'n euog o dorri unrhyw un o'r Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â safonau ymddygiad, a thynnu yn ôl ei hawliau a'i freintiau. Gallai'r hawliau a'r breintiau hyn gynnwys yr hawl i gael mynediad i adeiladau'r Cynulliad neu'r hawl i gynrychioli'r Cynulliad mewn digwyddiadau. Byddai gwahardd yr Aelod yn golygu y byddai'n colli ei gyflog yn awtomatig.

Mae'r cam hwn yn dilyn yr argymhellion a wnaed mewn adroddiad a gyhoeddwyd gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn gynharach eleni.

Cafwyd cefnogaeth eang i'r cynigion hyn mewn ymgynghoriad a gynhaliwyd gyda phob un o'r 60 Aelod Cynulliad.

Dywedodd Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru: “Mae cryfhau'r ystod o sancsiynau sydd ar gael i'r Cynulliad yn dangos ein hymrwymiad i greu sefydliad tryloyw ac atebol lle disgwylir i Aelodau gyrraedd y safonau uchaf o ymddygiad wrth wneud swydd gyhoeddus.

“Mae'r ffaith bod Aelodau eu hunain wedi pleidleisio o blaid mabwysiadu'r newidiadau hyn yn dangos yr ymroddiad a'r ymrwymiad y maent yn ei ddisgwyl ohonynt hwy eu hunain a'i gilydd wrth gynrychioli buddiannau pobl Cymru, deddfu ar gyfer Cymru a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.”

Gallwch weld adroddiad y Pwyllgor Busnes sy'n argymell newid y Rheolau Sefydlog mewn perthynas ag ymddygiad Aelodau yma.

Gallwch weld adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yma.