Y Cynulliad Cenedlaethol yn enwebu Archwilydd Cyffredinol newydd i Gymru

Cyhoeddwyd 14/03/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/07/2018

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cymeradwyo enwebiad Adrian Crompton fel Archwilydd Cyffredinol newydd Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar 14 Mawrth wedi iddo gael ei ddewis fel yr ymgeisydd a ffefrir gan y Pwyllgor Cyllid. 

Mr Crompton yw Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ar hyn o bryd ac fe'i cymeradwywyd yn dilyn proses recriwtio drwyadl yn cynnwys cyfweliad ac asesiad gan banel annibynnol, a gwrandawiad cyn enwebu gerbron y Pwyllgor.

Dywedodd Mr Crompton:

"Mae'n fraint ac anrhydedd fawr cael fy enwebu ar gyfer swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru. 

"Mae'r bobl sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn wynebu heriau enfawr mewn cyfnod o gyni ariannol difrifol ac wrth inni fynd i'r afael â goblygiadau gadael yr Undeb Ewropeaidd, datganoli cyllidol a diwygio cyfansoddiadol pellach. 

"Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r tîm yn Swyddfa Archwilio Cymru i helpu cyrff cyhoeddus i fynd i'r afael â'r heriau hynny a sicrhau bod dinasyddion Cymru yn cael gwerth am arian gan y sector cyhoeddus."

Dywedodd Simon Thomas AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, a arweiniodd y broses recriwtio:

"Mae gan Archwilydd Cyffredinol Cymru rôl hollbwysig yn gofalu am y pwrs cyhoeddus yng Nghymru.

"Drwy ei rôl, mae'n sicrhau bod sefydliadau'n gweithredu'n effeithlon wrth reoli arian cyhoeddus a bod ganddynt drefniadau gweithredu cadarn ar waith i sicrhau'r lefelau uchaf o uniondeb a llywodraethiant.

"Llwyddodd Adrian i greu argraff fawr ar y panel a'r Pwyllgor Cyllid oherwydd ei wybodaeth a'i brofiad helaeth, a theimlwn fod ganddo'r gallu i barhau a datblygu'r gwaith hanfodol a wneir gan Swyddfa Archwilio Cymru."

Caiff enwebiad Mr Crompton ei anfon yn awr at Ei Mawrhydi y Frenhines i'w gymeradwyo.

Disgwylir iddo ddechrau'r swydd ym mis Gorffennaf, pan fydd yr Archwilydd Cyffredinol presennol yn ymddiswyddo.