Y Cynulliad Cenedlaethol yn parhau i arwain y ffordd fel hyrwyddwr colli clyw

Cyhoeddwyd 08/05/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 08/05/2017

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cael ei wobrwyo unwaith eto gan Action on Hearing Loss Cymru am barhau i gefnogi pobl sydd wedi colli eu clyw.

Enillodd yn y categori ar gyfer Gwychder Gwasanaeth yng ngwobrau Action on Hearing Loss Cymru yn ddiweddar, gan olygu bod ymrwymiad y Cynulliad i helpu pobl sy'n ymdopi â byddardod neu golli eu clyw wedi cael ei nodi am bum mlynedd yn olynol.

Sicrhaodd y Cynulliad achrediad 'Yn Uwch na Geiriau' Action on Hearing Loss yn 2013, a llwyddo i'w gadw yn 2014 a 2015. Hefyd, am y ddwy flynedd diwethaf, mae’r Cynulliad wedi cael gwobr arian am ragoriaeth yng Nghymru gan Action on Hearing Loss.

Trefnir y gwobrau i gydnabod llwyddiant wrth ddarparu gwasanaethau sy'n ystyriol o bobl fyddar i'r hanner miliwn o bobl yng Nghymru sy'n fyddar neu sydd â nam ar eu clyw.

"Rwy'n falch iawn bod y Cynulliad wedi cael cydnabyddiaeth am ddarparu gwasanaethau cymorth i bobl sy'n fyddar neu sydd â nam ar eu clyw pan fyddant yn cael mynediad i waith Cynulliad Cenedlaethol Cymru," meddai Ann Jones AC, Dirprwy Lywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

"Mae'n galonogol ein bod wedi cael ein gwobrwyo'n gyson gan Action on Hearing Loss am dair blynedd yn olynol, ochr yn ochr â sefydliadau blaengar eraill, am ein hymrwymiad i sicrhau mynediad cynhwysol i'r Cynulliad a'i waith."

Joyce Watson AC yw Comisiynydd y Cynulliad Cenedlaethol sydd â chyfrifoldeb am gydraddoldeb:

"Un o'n prif gredoau yw bod gwaith Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn hygyrch i bawb.

"Un rhan allweddol o hynny yw darparu gwasanaethau cymorth i bobl sy'n fyddar neu sydd â nam ar eu clyw a hoffwn i ddiolch  Dîm Amrywiaeth a Chynhwysiant y Cynulliad am gydlynu gwasanaethau o'r radd flaenaf unwaith eto sy'n cael eu cydnabod gan bartneriaid allanol."