Y Cynulliad Cenedlaethol yn parhau i feithrin ei lwyddiant ym maes cydraddoldeb

Cyhoeddwyd 27/09/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Cynulliad Cenedlaethol yn parhau i feithrin ei lwyddiant ym maes cydraddoldeb

27 Medi 2013

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi ei Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2012-13.

Dyma'r Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol cyntaf yn ôl Cynllun Cydraddoldeb y Cynulliad ar gyfer 2012-2016.

Mae'r adroddiad yn darparu gwybodaeth am y cynnydd a wnaed o ran cyflawni ein hamcanion cydraddoldeb, sef ymgysylltu â phobl Cymru, cefnogi ein staff, cefnogi Aelodau'r Cynulliad a sicrhau bod cydraddoldeb yn ganolog ym mhopeth a wnawn.

Mae gwaith y Cynulliad yn hyn o beth wedi arwain at ei gydnabod fel sefydliad sy’n batrwm i eraill ei ddilyn, ac mae wedi cynyddu ei sgôr ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall 2013 yn y DU, wedi ennill marc Siarter ‘Yn Uwch na Geiriau’ Action on Hearing Loss, a chael ei gydnabod fel un o’r Deg Uchaf fel cyflogwr mwyaf cyfeillgar i deuluoedd y DU gan y sefydliad Cyflogwyr Gorau i Deuluoedd sy’n Gweithio (TEWF).

Dywedodd Rosemary Butler AC, y Llywydd: “Rwy’n falch o enw da Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym maes cydraddoldeb.

“Treuliais y ddwy flynedd ddiwethaf yn ymgyrchu dros sicrhau bod rhagor o fenywod yn cymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus, drwy ymgyrch #Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus y Llywydd, oherwydd nid oes gan fenywod mewn uwch swyddi dylanwadol yng Nghymru gynrychiolaeth ddigonol.

“Rwyf newydd lansio ein harolwg cenedlaethol @DyGynulliadDi ymysg pobl ifanc i ddarganfod sut y gallwn ymgysylltu’n well â'r to ifanc, ac yn ddiweddar gwnaethpwyd newidiadau i fynedfa ein hadeilad, Ty Hywel, i sicrhau ei bod yn haws i bobl anabl ddod i mewn.

“Mae'r prosiectau hyn yn rhai allweddol, a roddwyd ar waith er mwyn sicrhau bod cydraddoldeb i bawb yng Nghymru o ran mynediad at y broses wleidyddol, ond ni fyddwn yn llaesu dwylo, yn hytrach byddwn yn parhau i ymdrechu i wneud rhagor o welliannau.”

Mae'r uchafbwyntiau yn ystod y flwyddyn yn cynnwys:

  • Parhau i hyrwyddo cydraddoldeb ymysg Aelodau'r Cynulliad, ein staff a'r cyhoedd drwy fwletinau ac erthyglau blog ar gydraddoldeb, defnydd cynyddol o'r cyfryngau cymdeithasol, a chynnal nifer o ddigwyddiadau mewn cysylltiad â'r Wythnos Cydraddoldeb ac Amrywiaeth;

  • Croesawu amrywiaeth eang o ymwelwyr i'n hystâd ar gyfer teithiau, digwyddiadau ac arddangosfeydd amrywiol;

  • Cynnal archwiliad mynediad er mwyn gwella hygyrchedd ein hystâd;

  • Gwneud addasiadau rhesymol fel sy'n ofynnol ar gyfer Aelodau'r Cynulliad, ein staff ac ymwelwyr;

  • Ymgysylltu â phobl ledled Cymru mewn cyfarfodydd, digwyddiadau ac ymgynghoriadau, er mwyn casglu eu safbwyntiau ar gyfer datblygu Busnes y Cynulliad;

  • Datblygu polisïau i gefnogi anghenion Aelodau'r Cynulliad, ein staff ac ymwelwyr;

  • Cael rhwydweithiau cefnogi staff i gynorthwyo ein staff ac i gynorthwyo i ddatblygu ein polisïau. Yn 2012, lansiwyd ein rhwydweithiau ar gyfer menywod a staff o gefndiroedd du a lleiafrifoedd ethnig;

  • Cynnal arolygon staff rheolaidd;

  • Darparu hyfforddiant cydraddoldeb gorfodol i'r holl staff;

  • Cynyddu swm y data monitro cydraddoldeb ar gyfer staff yn ddramatig iawn;

  • Cael cydnabyddiaeth allanol am fod yn gyflogwr da – drwy ennill gwobr Safon Aur fel Buddsoddwr mewn Pobl; Un o gan cyflogwr gorau Stonewall; Un o'r Deg Uchaf fel cyflogwr mwyaf cyfeillgar i deuluoedd, a Siarter 'Yn Uwch na Geiriau' Action on Hearing Loss;

  • Cynnal cynllun prentisiaeth; a

  • Chynnal cyfres o ddigwyddiadau rhanbarthol a chynhadledd genedlaethol i edrych yn fanwl pam nad oes gan fenywod gynrychiolaeth ddigonol mewn bywyd cyhoeddus.

Ychwanegodd Sandy Mewies AC, Comisiynydd y Cynulliad Cenedlaethol sydd â chyfrifoldeb am Gydraddoldeb: “Mae ein Cynllun Cydraddoldeb newydd, a gyhoeddwyd y llynedd, yn amlinellu sut y byddwn yn parhau i hybu cydraddoldeb er mwyn sicrhau bod ein gwasanaethau, ein gwybodaeth a’n hadeiladau yn hygyrch i bawb.

"Ond rhaid i ni beidio â llaesu dwylo. Rydym wedi cyflawni llawer yn ystod blwyddyn gyntaf y strategaeth newydd hon, ond mae llawer o waith i'w wneud eto.

"Ein nod yw bod yn sefydliad sy’n batrwm i eraill ei ddilyn o safbwynt y modd rydym yn cynorthwyo ein staff, Aelodau’r Cynulliad ac aelodau’r cyhoedd yr ydym yn eu gwasanaethu.

"Mae'r gwasanaethau yr ydym yn eu cynnig i'r cyhoedd yn ymwneud â hygyrchedd ein hystâd a darparu gwybodaeth mewn modd hygyrch.”

Drwy gydol cyfnod yr adroddiad hwn, rydym wedi parhau i wella hygyrchedd ein gwasanaethau drwy:

  • ymgymryd ag archwiliad i hygyrchedd ein hadeiladau;

  • hyrwyddo'r ffaith bod gwybodaeth ar gael mewn fformatau amgen;

  • hyrwyddo'r defnydd o'r gwasanaeth Text Relay i bobl sydd â nam ar eu clyw neu ar eu lleferydd;

  • sicrhau bod trafodion y Cynulliad yn hygyrch;

  • gwella hygyrchedd ein gwefan; a

  • hyrwyddo ein cyfleusterau a gwasanaethau hygyrch i ymwelwyr.

Mae copi o'r adroddiad ar gael yma.