Y Cynulliad Cenedlaethol yn parhau i leihau allyriadau carbon

Cyhoeddwyd 22/12/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Cynulliad Cenedlaethol yn parhau i leihau allyriadau carbon

22 Rhagfyr 2011

Mae Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn parhau i gryfhau ei hygrededd mewn perthynas â materion gwyrdd.

Dengys y ffigurau diweddaraf bod y Comisiwn wedi cynhyrchu tua 185 o dunelli yn llai o allyriadau nwyon ty gwydr yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Yr hyn sy’n bennaf gyfrifol am y sefyllfa hon yw’r gostyngiad o 11 y cant a gafwyd mewn allyriadau ynni ar draws ystâd y Cynulliad ym Mae Caerdydd, sy’n cynnwys y Senedd, Ty Hywel a’r Pierhead.

Mae’r arbedion ynni a nodir yn adroddiad amgylcheddol blynyddol y Comisiwn yn adlewyrchu’r arbedion cost crynswth o tua £100,000 a wnaed dros y ddwy flynedd diwethaf, a hynny drwy wella adeiladau a chodi ymwybyddiaeth a thrwy newid arferion Aelodau’r Cynulliad, eu staff cymorth a staff Comisiwn y Cynulliad.

Yn ogystal, dengys yr adroddiad ostyngiad sylweddol yn nifer y milltiroedd busnes a deithiwyd yn ystod 2010-11, sef 122,000 o filltiroedd yn llai o’i gymharu â’r cyfnod blaenorol.

Dywedodd Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad: “Mae’n briodol bod y ffigurau hyn, sy’n dangos gostyngiad clir yn allyriadau carbon y Cynulliad, wedi dod i’r amlwg ar yr un pryd ag y llofnododd 190 o wledydd ledled y byd gytundeb newydd ar yr amgylchedd.

“Efallai bod Cymru’n genedl fach, ond rydym wedi ymrwymo i wneud ein rhan. Mae’r ffigurau hyn yn dangos ein penderfyniad parhaus i leihau ein hallyriadau ac i sicrhau bod pob peth rydym yn ei wneud yn y Cynulliad mor gynaliadwy â phosibl o ran yr amgylchedd.

“Mae’r camau a gymerwyd i wella adeiladau, ynghyd â chydweithrediad y bobl sy’n gweithio yma, yn golygu ein bod yn rhagori ar ein targed o sicrhau gostyngiad o 8 y cant mewn allyriadau ynni.

“Serch hynny, gwyddom fod rhagor i’w wneud, ac rydym wedi ymrwymo i barhau â’n hymdrechion i sicrhau bod allyriadau carbon y Cynulliad Cenedlaethol mor isel â phosibl yn y dyfodol.”

Er mwyn cydnabod ymdrechion parhaus y Cynulliad i fod yn sefydliad carbon isel, fe’i gwobrwywyd yng ngwobrau cynaliadwyedd y sector cyhoeddus am yr ail flwyddyn yn olynol yn 2011.

Mae’r adroddiad amgylcheddol blynyddol ar gyfer 2010-11 i’w gael yma.

Ceir rhagor o wybodaeth am y Senedd a’i nodweddion cynaliadwy yma.

Ceir rhagor o wybodaeth am Gomisiwn y Cynulliad a’i gyfrifoldebau yma.