Y Cynulliad Cenedlaethol yn talu teyrnged i'r cyn Brif Weinidog Margaret Thatcher

Cyhoeddwyd 08/04/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Cynulliad Cenedlaethol yn talu teyrnged i'r cyn Brif Weinidog Margaret Thatcher

8 Ebrill 2013

Caiff baneri Cynulliad Cenedlaethol Cymru eu gostwng i'r hanner heddiw (8 Ebrill) i nodi marwolaeth y cyn Brif Weinidog, y Farwnes Thatcher o Kesteven.

Bydd cyfle i Aelodau'r Cynulliad nodi ei chyfraniad i fywyd cyhoeddus Prydain pan fydd y Cynulliad yn ailymgynnull ar 16 Ebrill, pan fydd baneri'r Cynulliad yn cael eu gostwng i'r hanner unwaith eto.

Dywedodd y Llywydd Rosemary Butler AC, “Ar ran Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, hoffwn estyn cydymdeimlad i deulu'r Farwnes Thatcher,”

“Bu'r cyn Brif Weinidog yn ffigwr allweddol yn hanes Prydain ac nid oes amheuaeth iddi ddylanwadu'n sylweddol ar ein bywydau ni oll.

“Mae'n briodol bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi marwolaeth ffigwr a fu mor ddylanwadol ar fywyd Prydain.”