Y Cynulliad Cenedlaethol yn ymuno â chwmnïau blaenllaw sydd ymysg 100 cwmni'r FTSE ar y rhestr o'r 10 gweithle sydd fwyaf ystyriol o deuluoedd

Cyhoeddwyd 06/10/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

​Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ennill gwobr o fri sy'n cydnabod ei ymrwymiad i ddarparu amgylchedd gweithio sy'n ystyriol o deuluoedd.

Corff deddfu Cymru yw'r unig sefydliad yng Nghymru a farnwyd yn un o'r 10 cyflogwr gorau yn y DU gan sefydliad y Cyflogwyr Gorau i Deuluoedd sy'n Gweithio (TEWF).

Mae safon TEWF yn feincnod arfer da a gaiff ei gydnabod gan ddiwydiant yng nghyswllt darparu amgylchedd gweithio sy'n galluogi pobl i gael cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith.

Golyga hyn fod y Cynulliad yn ymuno â 100 cwmni'r FTSE, ymysg elît Prydain yn y maes hwn.

Dywedodd Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

"Mae'r holl ymchwil yn dangos bod gweithlu sydd â chydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith yn weithlu effeithiol a chreadigol."

"Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cydnabod bod hyblygrwydd yn galluogi gweithwyr i lwyddo yn y gwaith ac i gyflawni eu hymrwymiadau teuluol a all newid.

“Mae'n bwysig helpu pobl yng Nghymru sy'n gweithio i ddod o hyd i gydbwysedd priodol rhwng eu gwaith a meysydd eraill eu bywydau.

"Dyna pam mae'n bleser mawr llongyfarch pawb sydd a wnelont â'r maes hwn am y gydnabyddiaeth a roddwyd iddynt am eu gwaith rhagorol ac am ddatblygu polisïau sy'n cyd-fynd â'r arferion gorau."

Dywedodd Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad:

"Rydym oll yn ymwybodol bod angen inni sicrhau cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith oherwydd gwyddom ei fod yn ein gwneud yn hapusach ac yn fwy effeithiol, yn ein bywydau personol a phroffesiynol.

"Rydym yn disgwyl llawer iawn gan y bobl sy'n gweithio i'r Cynulliad ond yn gyfnewid rydym yn eu cefnogi drwy ein polisïau sy'n ystyriol o deuluoedd ac sy'n sicrhau cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Rwy'n gweld yr effaith gadarnhaol bob dydd yn ein tîm anhygoel a'n gwasanaethau o ansawdd uchel."

Mae’r rhaglenni a’r polisïau sydd gan y Cynulliad i’w staff er mwyn bod yn ystyriol o deuluoedd yn cynnwys:

  • Patrymau gweithio hyblyg – tymor yn unig, rhan-amser, oriau cywasgedig ac ati
  • Oriau hyblyg
  • Trefniadau gwell o ran cyfnod a thaliadau mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu/absenoldeb rhiant a rennir
  • Aberthu Cyflog i gael Talebau Gofal Plant
  • Polisi Gofalwyr
  • Trefniadau Absenoldeb Arbennig
  • Rhwydwaith rhieni a gofalwyr yn y gweithle

Daw'r wobr hon yn ystod yr Wythnos Genedlaethol Cydbwysedd Rhwng Bywyd a Gwaith, a drefnwyd gan TEWF, a lle mae'r Cynulliad wedi trefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau mewnol i staff er mwyn hyrwyddo'r opsiynau sydd ar gael iddynt.