Y Cynulliad i annog y cyhoedd i ddweud eu dweud yng Ngwyl y Golau Gwyrdd

Cyhoeddwyd 29/06/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Cynulliad i annog y cyhoedd i ddweud eu dweud yng Ngwyl y Golau Gwyrdd

29 Mehefin 2011

Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ymweld â Gwyl Golau Gwyrdd Wrecsam ddydd Gwener 1 Gorffennaf 2011.

Bydd staff wrth law i annog ymwelwyr i ddweud eu dweud am waith y Cynulliad ac i gynnig syniadau ynghylch pa faterion yr hoffent i’r Cynulliad eu trafod.

Cynhelir yr wyl yn Sgwâr y Frenhines, Wrecsam, a bydd arweinydd y Cyngor a Maer Wrecsam yn agor yr wyl yn swyddogol am 10.00.

Bwriad yr wyl fydd dangos i’r cyhoedd pa mor bwysig yw addysg amgylcheddol ar gyfer plant a phobl ifanc o bob oed.

“Mae’r bleidlais gadarnhaol yn y refferendwm ym mis Mawrth yn golygu bod mwy o’r penderfyniadau sy’n effeithio ar bobl Cymru yn cael eu gwneud yng Nghymru,” meddai Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad.

“Felly, mae’n bwysicach nag erioed fod y penderfyniadau hynny yn cael eu gwneud gan ystyried gwybodaeth a sylwadau pobl Cymru.”

“Dyna pam rydym wedi gwneud ‘Cynulliad y Cymunedau’ yn un o brif themâu’r Pedwerydd Cynulliad. Byddwn yn annog unrhyw un sy’n ymweld â sioe Golau Gwyrdd Wrecsam i fynd draw i ddarganfod sut y maent yn cael eu cynrychioli a sut y gallant gymryd rhan.”

Bydd Mark Isherwood, un o Aelodau Cynulliad rhanbarthol Gogledd Cymru, a Lesley Griffiths, Aelod Cynulliad etholaeth Wrecsam, yn cwrdd ag ymwelwyr â bws y Cynulliad Cenedlaethol am 10.00 and 10.30, yn eu tro.

Cliciwch yma i weld lle fydd y bws yn mynd

Gallwch hefyd weld lle mae’r bws wedi bod, pwy sydd wedi bod yn siarad â ni, a’r hyn y maent wedi bod yn ei ddweud, ar flog y bws.