Y Cynulliad i groesawu un sy’n cymryd rhan yn Rhaglen Gymrodoriaeth John Smith

Cyhoeddwyd 16/06/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Cynulliad i groesawu un sy’n cymryd rhan yn Rhaglen Gymrodoriaeth John Smith  

Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn croesawu Mr Armen Amirkhanyan, gwleidydd ifanc o Georgia, a fydd yn ymweld fel rhan o Raglen Gymrodoriaeth John Smith ddydd Mawrth 17 Mehefin.

Mae Mr Amirkhanvan yn aelod o Fwrdd Fforwm Dinasyddion Javakheti, sefydliad sy’n cynorthwyo i integreiddio lleiafrifoedd ethnig yn Georgia, yn enwedig y gymuned Armenaidd yn ardal Javakheti, a bydd yn ymgeisydd yn etholiadau seneddol Georgia yn hwyrach eleni.

Bydd yn ymweld â’r Cynulliad fel rhan o ymweliad hirach er mwyn dysgu sut mae sefydliadau ac arferion democrataidd wedi datblygu dros amser yn y Deyrnas Unedig. Yn ystod ei ymweliad bydd yn canolbwyntio ar ei ddiddordebau, sef ennyn diddordeb mewn democratiaeth, yn enwedig ymysg lleiafrifoedd ethnig, a phrosesau datganoli. Bydd yn cyfarfod â thîm Addysg y Cynulliad ac yn ymweld â Siambr Hywel, cyfleuster addysg newydd sbon y Cynulliad, a bydd yn cyfarfod â Phwyllgor Cyfle Cyfartal a Phwyllgor Plant a Phobl Ifanc y Cynulliad.

Dywedodd Ann Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfle Cyfartal: “Rwy’n edrych ymlaen i groesawu Mr Amirkhanvan i’r Cynulliad Cenedlaethol ac i rannu ein profiadau fel pwyllgor gydag ef. Amlygodd ein hymchwiliad diweddar i’r materion sy’n effeithio ar weithwyr mudol yng Nghymru nifer o bryderon ynghylch integreiddio lleiafrifoedd ethnig a gobeithio y gallwn eu trafod a rhannu syniadau. Mae gennym ni gymaint i’w ddysgu gan wledydd eraill ag sydd ganddynt hwy i’w ddysgu gennym ni.”

Dywedodd Helen Mary Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc: “Rwy’n falch bod y Cynulliad Cenedlaethol erbyn hyn yn ddigon uchel ei barch ymhlith gwledydd Ewropeaidd eraill fel y’i defnyddir fel enghraifft o sefydliad ifanc democrataidd a all rannu ei arfer gorau â chyrff democrataidd newydd eraill. Gobeithio y bydd Mr Amirkhanvan yn cael ymweliad defnyddiol ac y bydd yn dychwelyd i Georgia a rhannu ei brofiadau ag eraill.”

Enwyd Rhaglen Gymrodoriaeth John Smith er cof am gyn arweinydd y Blaid Lafur ac fe’i gweinyddir gan Ymddiriedolaeth Goffa John Smith, elusen gofrestredig sydd hefyd yn sefydliad nad yw’n perthyn i unrhyw blaid wleidyddol. Mae’n cynnig rhaglen bum wythnos ddwys i arweinwyr ifanc talentog o’r cyn Undeb Sofietaidd ar lywodraethu da, democratiaeth a chyfiawnder cymdeithasol. Mae’n ceisio dangos sut mae gwlad aeddfed ddemocrataidd yn cynnal a datblygu llywodraethu da, trefn y Gyfraith a’r cyfiawnhad dros hawliau dynol a chyfreithiol. Mae hefyd yn dangos sut mae’n dull ni o ddemocratiaeth yn meithrin a chynnal sefydliadau gwirfoddol a chyrff anllywodraethol sy’n ceisio ymladd tlodi, rhoi grym i grwpiau difreintiedig a rhoi llais i’r rheini sydd heb ddylanwad gwleidyddol ar hyn o bryd.