Y Cynulliad i gynnal pleidlais ar gyfraith newydd hanesyddol

Cyhoeddwyd 06/05/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Cynulliad i gynnal pleidlais ar gyfraith newydd hanesyddol

Bydd hanes yn cael ei greu yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ddydd Mawrth 6 Mai pan gynhelir dadl cyfnod terfynol ar Fesur cyntaf erioed y Cynulliad, sef Mesur Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG (Cymru) 2007. Bydd y Mesur arfaethedig yn ei gwneud yn haws ac yn gyflymach i gleifion hawlio iawndal pan mae triniaeth a ddarparwyd gan y GIG wedi bod yn esgeulus.  

Os caiff y Mesur ei basio, dyma fydd y ddeddfwriaeth sylfaenol gyntaf erioed i gael ei gwneud gan y Cynulliad Cenedlaethol, y gyfraith gyntaf i gael ei phasio yng Nghymru ers i Hywel Dda lunio cyfreithiau yn y ddegfed ganrif a’r gyfraith ddwyieithog gyntaf erioed i gael ei phasio ym Mhrydain.

Os caiff ei basio, bydd y Mesur yn cael ei gyflwyno i EM Y Frenhines i’w gymeradwyo gan Ei Mawrhydi yn y Cyngor. Unwaith y derbynnir Cymeradwyaeth Frenhinol, bydd y Mesur yn gyfraith yng Nghymru.

Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, Llywydd y Cynulliad: “Rwyf yn edrych ymlaen at gadeirio’r ddadl cyfnod terfynol gyntaf erioed ar Fesur arfaethedig y Cynulliad a gobeithio goruchwylio’r gwaith o basio’r gyfraith gyntaf i gael ei gwneud yng Nghymru ers dyddiau Hywel Dda. Mae’r ffaith bod hyn wedi digwydd o fewn blwyddyn i Ddeddf Llywodraeth Cymru ddod yn gyfraith yn deyrnged i’r Cynulliad a Gweinidogion Cymru a Senedd y DU – mae pawb wedi dangos eu bod yn fodlon ymgymryd â’r gwaith o sicrhau bod y broses ddeddfwriaethol newydd yn gweithio a’u gallu i wneud hynny. Rwyf yn falch o’r ffordd rydym wedi ymateb i heriau’r pwerau deddfu newydd sydd gan y Cynulliad a’r cyfrifoldebau ychwanegol sy’n gysylltiedig â hynny.”

Nodiadau i olygyddion: Rhoddodd Deddf Llywodraeth Cymru 2006 y pwerau i’r cynulliad wneud cyfreithiau, a elwir yn Fesurau, mewn meysydd lle mae ganddo bwerau datganoledig. Gall Mesurau gael eu cynnig gan Lywodraeth Cymru, Aelodau Cynulliad unigol neu Bwyllgorau. Cafodd y Mesur Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG ei gynnig gan y Llywodraeth. Mae proses pedwar cyfnod ar gyfer ystyried Mesur arfaethedig:

  • Cyfnod 1 – ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur a chytuno arnynt;

  • Cyfnod 2 – ystyriaeth fanwl o’r Mesur ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd gan bwyllgor o Aelodau Cynulliad;

  • Cyfnod 3 - ystyriaeth fanwl o’r Mesur ac unrhyw welliannau a gaiff eu dethol mewn Cyfarfod Llawn;

  • Cyfnod 4 – pasio testun terfynol y Mesur.

O ran y Mesur Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG, mae cyfnodau 3 a 4 yn digwydd gyda’i gilydd.

Os caiff y Mesur ei basio, caiff ei gymeradwyo gan y Frenhines yn y Cyfrin Gyngor.

Cewch hyd i ragor o wybodaeth ar deddfwriaeth yn y Pecyn Gwybodaeth i'r Cyfryngau