Y Cynulliad i gynnig hyfforddiant i Aelodau Seneddol Lesotho

Cyhoeddwyd 06/03/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Cynulliad i gynnig hyfforddiant i Aelodau Seneddol Lesotho

Mae tri aelod o bwyllgor Senedd Lesotho ar HIV/AIDS yn bwriadu ymweld â Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Bydd dau Aelod Seneddol a Chlerc y pwyllgor yn ymweld â’r Cynulliad am wythnos rhwng 10 a 14 Mawrth fel rhan o raglen gyfnewid tymor hir rhwng y Cynulliad a Senedd genedlaethol Lesotho.  

Bydd y dirprwyon yn gweithio gydag Aelodau a staff y Cynulliad er mwyn dysgu sut y gall y pwyllgor ddatblygu ei rôl a’i allu i chwarae rhan yn y frwydr yn erbyn lledaenu HIV/AIDS yn Lesotho. Trefnwyd yr ymweliad, a noddwyd gan Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad, yn dilyn ymweliad dirprwyon o’r Cynulliad â Lesotho y llynedd i helpu’r Senedd i ddatblygu rôl ei bwyllgorau.

Dywedodd Janet Ryder, Cadeirydd Cangen y Cynulliad o Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad, 'Roedd Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad yn falch iawn o dderbyn cais i weithio gyda’r pwyllgor ar HIV/AIDS ac i adeiladu ar y berthynas sydd gennym eisoes â Senedd Lesotho.  Mae HIV/AIDS yn her enfawr i Lesotho, ac yn effeithio ar bob agwedd ar fywyd y wlad.  Mae gan y pwyllgor ran bwysig i’w chwarae wrth ddatblygu strategaeth HIV/AIDS effeithiol ac rydym yn falch o allu cynnig ein cefnogaeth.'    

Nodiadau i olygyddion

Gwlad dirgaeedig yw Lesotho, a amgylchynir yn llwyr gan Weriniaeth De Affrica. Mae’r wlad tua’r un maint â Chymru ac fe’i gelwir yn aml yn “deyrnas y mynyddoedd”. Enillodd ei hannibyniaeth oddi wrth Brydain ym 1966.

Mae cysylltiadau cryf eisoes yn bodoli rhwng Cymru a Lesotho. Sefydlwyd Dolen Cymru ym 1985 er mwyn creu cysylltiadau rhwng y ddwy wlad, sy’n debyg o ran maint. Ers ei sefydlu ugain mlynedd yn ôl cynhaliwyd cannoedd o ymweliadau cyfnewid yn cynnwys athrawon, gweithwyr meddygol, undebwyr llafur a sefydliadau gwirfoddol a chymunedol. Mae gan dros saith deg o ysgolion yng Nghymru eisoes gysylltiadau â Lesotho.