Y Cynulliad i holi Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC ynghylch adroddiad beirniadol

Cyhoeddwyd 13/06/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Cynulliad i holi Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC ynghylch adroddiad beirniadol.

Bydd Mark Thompson, Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, yn cael ei holi ynghylch cyhuddiadau bod y BBC yn anwybyddu Cymru yn ystod cyfarfod nesaf Pwyllgor Darlledu’r Cynulliad ddydd Llun, 16 Mehefin.

Bydd Mr Thompson yn rhoi tystiolaeth i’r pwyllgor ar y cyd â Janet Lewis-Jones, Aelod o Ymddiriedolaeth y BBC dros Gymru a Syr Michael Lyons, Cadeirydd Ymddiriedolaeth y BBC, a gomisiynodd yr adroddiad, fel rhan o’r ymchwiliad i ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru.

Canfu’r adroddiad, sy’n cynnwys asesiad annibynnol gan yr Athro Anthony King o Brifysgol Essex, nad oedd newyddion a materion cyfoes y BBC yn adlewyrchu’r trawsnewid sydd wedi digwydd yng ngwleidyddiaeth a bywyd cenedlaethol Cymru a bod Cymru ar y cyfan yn cael ei hanwybyddu gan newyddion cenedlaethol y BBC ers datganoli.

Dywedodd Alun Davies, Cadeirydd y pwyllgor: “Nid materion ynghylch Cymru, na’r Alban na Gogledd Iwerddon sy’n ganolog i’r adroddiad, ond materion ynghylch ansawdd a safonau newyddiaduraeth y BBC, ac mae’r adroddiad yn llym iawn ei feirniadaeth o’r safonau hynny.

“O bosibl dyma’r adroddiad mwyaf trychinebus i’r BBC ers adroddiad Hutton o bosibl ac rwy’n edrych ymlaen i glywed ymateb Mr Thompson a’r ymddiriedolwyr.

“Mae’r pwyllgor yn sicr yn edrych ymlaen i glywed sut mae’r gorfforaeth yn bwriadu mynd i’r afael â’r materion a godwyd yn yr adroddiad.“

Mae’r pwyllgor yn cynnal ymchwiliad i ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru, ac yn canolbwyntio ar ddyfodol darlledu gwasanaeth cyhoeddus drwy Cymraeg a Saesneg ei iaith yng Nghymru, effeithiau’r newid i ddigidol a chreu llwyfannau darlledu newydd ar gynhyrchu a darparu rhaglenni a chynnwys digidol o Gymru ac yng Nghymru.

Cynhelir y cyfarfod yn Ystafell Bwyllgora 3, y Senedd am 12.30pm.

Mae rhagor o wybodaeth am y pwyllgor a’i ymchwiliad ar gael yma: http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-committees/bus-committees-third1/bus-committees-third-bcc-home.htm