Y Cynulliad i wynebu San Steffan yn eu gêm rygbi elusennol flynyddol

Cyhoeddwyd 03/02/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Cynulliad i wynebu San Steffan yn eu gêm rygbi elusennol flynyddol

3 Chwefror2011

Bydd y bumed gêm rygbi elusennol flynyddol yn cael ei chynnal ddydd Gwener 4 Chwefror rhwng Clwb Rygbi Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Chlwb Rygbi’r Undeb Tŷ’r Arglwydd a Thŷ’r Cyffredin yng Nghlwb Rygbi Harlequins Cyn Ddisgyblion Ysgol Uwchradd Caerdydd yn yr Eglwys Newydd am 2pm.

Caiff y gêm flynyddol ei chwarae cyn gemau Cymru yn erbyn Lloegr ym mhencampwriaeth Chwe Gwlad RBS.

Mae pedwar o Aelodau’r Cynulliad yn nhîm y Cynulliad Cenedlaethol, sef Andrew RT Davies AC, Dai Lloyd AC, Alun Davies AC ac Alun Cairns AC/AS. Bydd Alun Cairns yn chwarae i’r ddau dîm yn y gêm hon, gan ddechrau â thîm y Cynulliad cyn symud ymlaen i chwarae dros ddau Dŷ Senedd y DU. Hon fydd ei gêm olaf i dîm y Cynulliad cyn iddo gymryd ei rôl fel Aelod Seneddol yn llawn amser yn dilyn etholiad y Cynulliad ym mis Mai. Daw aelodau eraill y tîm o blith staff y Cynulliad Cenedlaethol a swyddogion Llywodraeth Cymru.

Yr Arglwydd Dominic Addington yw capten tîm Tŷ’r Arglwydd a Thŷ’r Cyffredin, ac mae’r tîm hefyd yn cynnwys Stephen Crabb AS, Chris Bryant AS, Mark Pawsey AS a Chris Heaton-Harris AS. Mae aelodau eraill y tîm yn weision sifil neu’n staff yr Aelodau Seneddol.

Caiff y gêm ei chwarae i godi arian i’r elusen a ddewiswyd gan dîm rygbi’r Cynulliad, sef Bowel Cancer UK. Diben yr elusen hon yw ceisio achub bywydau drwy godi ymwybyddiaeth o ganser y coluddyn, drwy ymgyrchu i gael y driniaeth a’r gofal gorau a darparu cymorth a chyngor ymarferol.

Dywedodd Andrew RT Davies AC, cadeirydd clwb rygbi’r Cynulliad Cenedlaethol: “Rydym yn croesawu’n gynnes ein gwrthwynebwyr o San Steffan i Gymru heddiw ar gyfer yr hyn a ddylai fod yn ddigwyddiad difyr iawn. Gan mai hon yw’r gêm y bu’r disgwyl mwyaf amdani, rydym yn edrych ymlaen at chwarae yng ngwir ysbryd rygbi undeb Seneddol.   

“Hoffem ddiolch i drefnwyr y gêm heddiw, sef y bumed gêm rhwng ein dau dîm, a rhoddwn ddiolch arbennig i Glwb Rygbi Cyn Ddisgyblion Ysgol Uwchradd Caerdydd am ganiatáu i ni gynnal y gêm ar ei gae.”