Y Cynulliad yn agor ymchwiliad i Fil Llywodraeth Leol (Cymru)

Cyhoeddwyd 29/01/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/02/2015

Mae'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn cynnal ymchwiliad i egwyddorion cyffredinol Bil Llywodraeth Leol (Cymru).

Nod Bil Llywodraeth Leol (Cymru) yw galluogi i rywfaint o waith gael ei wneud i baratoi ar gyfer rhaglen Llywodraeth Cymru o uno a diwygio llywodraeth leol, gan gynnwys uno cynnar, gwirfoddol.

Bydd y Pwyllgor yn ystyried a oes angen y ddeddfwriaeth. Yn ogystal, bydd yn edrych ar unrhyw rwystrau posibl i roi darpariaethau'r Bil ar waith ac a yw'r Bil yn eu hystyried , a oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o'r Bil, goblygiadau ariannol y Bil a phriodoldeb y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth.

Dywedodd Christine Chapman AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol:

"Bu uno arfaethedig awdurdodau lleol yn destun dadl gyhoeddus ddwys yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Rhoddwyd y dasg i'r Pwyllgor o ystyried y Bil y bwriedir iddo roi trefniadau deddfwriaethol ar waith i alluogi Llywodraeth Cymru i ddechrau ar ei rhaglen uno.  Tra bod llawer o'r trafodaethau hyd yma wedi canolbwyntio ar y darlun o lywodraeth leol yng Nghymru yn y dyfodol, ein gwaith ni yw ystyried a oes angen Bil ac a yw'n addas i'r diben.

"Rydym yn croesawu cyflwyniadau gan sefydliadau drwy Gymru sydd â diddordeb yn y Bil. Dylai cyflwyniadau gyrraedd erbyn 13 Mawrth 2015 fan bellaf."

Os hoffech gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig o'ch cyflwyniad i: SeneddCELG@Cynulliad.Cymru