Y Cynulliad yn cael cydnabyddiaeth eto am ei agwedd tuag at gydraddoldeb

Cyhoeddwyd 14/01/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/02/2015

​Mae ystâd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cael Gwobr Mynediad ("y Wobr") y Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth, y corff cyhoeddus cyntaf yng Nghymru i'w chael.

Mae hon yn ychwanegu at y gwobrau eraill y mae'r Cynulliad wedi'u hennill i gydnabod ei ymrwymiad parhaus i gydraddoldeb, sy'n cynnwys Nod Siarter 'Action on Hearing Loss, Louder than Words' sy'n dangos ymrwymiad staff a defnyddwyr gwasanaethau sy'n fyddar neu sy'n drwm eu clyw. 

Gwobr am arfer da o ran cynllunio adeiladau a chyfleusterau mewn modd sy'n ystyried anghenion pobl ag awtistiaeth, a'u teuluoedd a'u gofalwyr.  Mae'n dangos bod y cyfleusterau'n ystyriol o bobl ag awtistiaeth, a bod ymrwymiad i sicrhau eu bod yn hygyrch i'r bobl hyn.

"Mae hyn eto'n gydnabyddiaeth o'r modd y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn ceisio sicrhau bod ei gyfleusterau'r un mor hygyrch i bawb," meddai'r Llywydd, y Fonesig Rosemary Butler AC.

"I ddemocratiaeth weithio'n llawn i Gymru, rhaid i'w sefydliadau deddfu ymgysylltu â phawb yng Nghymru, ac mae hynny'n golygu sicrhau bod ein cyfleusterau, ein gwasanaethau a'n gwybodaeth ar gael i bawb.

"Hoffwn ddiolch i dîm Cydraddoldebau'r Cynulliad am sicrhau bod y Cynulliad yn parhau i ddangos arweiniad ym maes cydraddoldeb mynediad.

"Nid yw'n gwaith yn y maes hwn yn gyflawn fodd bynnag, a byddwn yn parhau i chwilio am ffyrdd i wella'r modd rydym yn ymgysylltu â phobl Cymru."

Isod, mae rhai o'r camau a gymerodd y Cynulliad i ennill y Wobr hon:

  • Crëwyd adran benodol ar y wefan ar gyfer ymwelwyr ag Awtistiaeth.  Yn yr adran mae dolenni gwybodaeth i adnoddau mewn fformatau gwahanol ac a gynlluniwyd yn arbennig ar eu cyfer;
  • Sefydlwyd mannau tawel penodedig i bobl ag awtistiaeth orffwys ac ymdawelu;
  • Sicrhawyd bod y staff perthnasol yn cael hyfforddiant i ymdrin â phôl anabl yn hyderus, sy'n cynnwys adran ar awtistiaeth;
  • Dynodwyd 28 o Hyrwyddwyr Awtistiaeth ym mhob rhan o'r sefydliad, gan gynnwys y tîm Diogelwch a'r tîm Cyswllt Cyntaf, sy'n dilyn y cwrs hyfforddi ar hyn o bryd; 
  • Sefydlwyd cysylltiadau â grwpiau NAS lleol a chasglwyd sylwadau ganddynt; 
  • Paratowyd ffurflen sylwadau er mwyn cael adborth parhaus gan ymwelwyr ag awtistiaeth.

Ychwanegodd Sandy Mewies AC, y Comisiynydd Cynulliad sy'n gyfrifol am faterion cydraddoldeb, "Mae'r Wobr Awtistiaeth yn dangos bod y Cynulliad wedi ymrwymo i fod yn lleoliad hygyrch i ymwelwyr sydd ar y sbectrwm awtistiaeth."

Dywedodd Mark Lever, Prif Weithredwr y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol (NAS): "Hoffwn longyfarch Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar ennill Gwobr Awtistiaeth yr NAS, yr adeilad cyhoeddus cyntaf i wneud hynny.  Mae staff y Cynulliad wedi dangos cryn ymrwymiad i sicrhau bod ystâd y Cynulliad yn agored ac yn hygyrch i bobl ag awtistiaeth a'u teuluoedd.  Roedd yn braf gweld sut y mae pobl ag awtistiaeth a'r NAS wedi bod yn gweithio gyda'r Cynulliad, yn helpu staff i fod yn fwy ymwybodol o'u problemau ac yn eu cynghori ynghylch y modd yr oedd angen newid yr adeiladau.

"Mae'n hanfodol bwysig bod pobl ag awtistiaeth yn gallu cymryd rhan lawn mewn bywyd dinesig ac yn eu cymunedau.  Gall hyfforddiant a chynlluniau i godi ymwybyddiaeth wneud gwahaniaeth enfawr a gobeithio y bydd y Cynulliad yn ysbrydoli rhagor o adeiladau cyhoeddus a sefydliadau eraill Cymru i weithio gyda ni i fod yn fwy ystyriol o awtistiaeth."