Y Cynulliad yn cyflwyno cynllun prentisiaethau yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus

Cyhoeddwyd 23/10/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Cynulliad yn cyflwyno cynllun prentisiaethau yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus

23 Hydref 2013

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cyflwyno cynllun prentisiaethau yn dilyn llwyddiant ei gynllun peilot.

Fis Medi y llynedd, cafodd pedwar person ifanc eu dewis i weithio mewn cyfarwyddiaethau amrywiol ar draws y Cynulliad.

Roeddent oll yn gaffaeliaid ardderchog i dîm y Cynulliad, a phasiodd pob un ohonynt eu harholiadau NVQ mewn Gweinyddu Busnes.

Oherwydd y llwyddiant cychwynnol hwn, bydd y Cynulliad yn awr yn hysbysebu ar gyfer ymgeiswyr newydd y flwyddyn nesaf.

Dywedodd Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad: “Gyda diweithdra ymysg pobl ifanc mor uchel yn yr hinsawdd economaidd bresennol, dylem oll wneud popeth y gallwn ei wneud i geisio cynnig cyfleoedd i bobl ifanc, o amrywiaeth o gefndiroedd, ddatblygu eu sgiliau drwy gyfleoedd gwaith.”

“Bu’r grwp cyntaf o brentisiaid yn gaffaeliaid ardderchog i’n timau ar draws y sefydliad, ac mae’r Cynulliad Cenedlaethol bellach am roi’r un cyfle i ragor o bobl ifanc.”

Mae’r pedwar prentis a ddewiswyd y llynedd wedi elwa ar yr ystod o lwybrau gyrfaol sydd ar gael yn y Cynulliad, gan weithio mewn adrannau fel Adnoddau Dynol, Cyfieithu a Chofnodi, Rheoli Cyfleusterau a Chymorth i Aelodau’r Cynulliad.

Dywedodd Melissa Nichols, 23 oed, o Gyncoed, Caerdydd, a fu’n gweithio yn y maes gwasanaeth Cymorth i’r Comisiwn ac i’r Aelodau: “Dechrau fel prentis yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru oedd y peth gorau ar gyfer fy ngyrfa a wnes i erioed”.

“Rwyf nid yn unig wedi llwyddo i gael NVQ mewn Gweinyddu Busnes ond rwyf wedi cael profiad gwaith amhrisiadwy.

“Rwy’n gweld fy ngydweithwyr fel pobl i’w hefelychu o ran fy natblygiad wrth i mi barhau i ddysgu oddi wrthynt.

“Mae’n bleser dweud fy mod bellach yn aelod parhaol o staff y Gwasanaeth Cymorth i’r Comisiwn ac i’r Aelodau, ac rwy’n edrych ymlaen at yrfa werthfawr gyda’r Cynulliad.”

Ychwanegodd Zoe Kelland, 20 oed, o’r Rhws, a fu’n gweithio i’r timau Cyfieithu a Chofnodi a Chyswllt Cyntaf: “Un o’r pethau gorau yr wyf wedi’u cael yw cyfle posibl i gael swydd.  Hefyd, rwyf wedi llwyddo i gael NVQ mewn Gweinyddu Busnes.

“Rwyf wedi dysgu gymaint drwy fod yn Brentis.  Rwyf wedi datblygu fy sgiliau TG a chyfathrebu, ac rwyf wedi cynrychioli Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nigwyddiad y British and Irish Parliamentary Reporting Association yn Llundain ac yn yr Eisteddfod.  Rwyf wedi cwrdd â chymaint o bobl ac wedi mwynhau’n fawr yn ystod fy ngyfnod yn y Cynulliad.

Dywedodd Morgan Reeves, 19 oed, o Faesteg, sydd wedi treulio ei brentisiaeth yn y tîm Rheoli Cyfleusterau: “Mae’r Cynllun Prentisiaeth wedi rhoi cyfle amhrisiadwy i mi ddeall sut mae’r Cynulliad yn gweithio ac i feithrin sgiliau yn un o sefydliadau allweddol y sector cyhoeddus.

“Drwy gydol y cynllun, rwyf wedi aeddfedu fel person ac wedi magu hyder ynof fi fy hun ac yn fy ngwaith.

“Rwyf wedi datblygu perthnasau gwaith ardderchog ynghyd â sgiliau gweinyddol a sgiliau sy’n gysylltiedig â rheoli cyfleusterau.  Mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn le gwych i weithio iddo ac mae’n cynnig llawer o lwybrau gyrfaol posibl.”

Ychwanegodd Emily Morgan, 22 oed, o’r Barri, sy’n gweithio i’r Adran Adnoddau Dynol: “Bu’r Brentisiaeth hon yn brofiad amhrisiadwy sydd wedi rhoi’r sgiliau, y cymwysterau, y wybodaeth a’r profiad gwaith sydd eu hangen arnaf i gael swydd barhaol yn y Cynulliad.

“Rwyf wedi llwyddo i gael cymhwyster sydd wedi’i gydnabod yn genedlaethol ac rwyf wedi mwynhau gweithio gyda phobl wahanol, gan ddysgu sgiliau newydd a bod yn rhan o fywyd y Cynulliad.”

I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun a sut i wneud cais, ewch i: http://www.cynulliadcymru.org/cy/gethome/working/recruitment/jobs.htm

Neu ceir rhagor o wybodaeth @cynulliadcymru