Y Cynulliad yn ethol Pwyllgor Is-Ddeddfwriaeth newydd

Cyhoeddwyd 20/06/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Cynulliad yn ethol Pwyllgor Is-Ddeddfwriaeth newydd

Fe etholodd y Cynulliad Cenedlaethol ei Bwyllgor cyntaf ddoe dan y Ddeddf Llywodraeth Cymru newydd. Bydd y Pwyllgor Is-Ddeddfwriaeth yn craffu ar gynigion manwl ar gyfer deddfwriaeth gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Gwaith y Pwyllgor fydd sicrhau fod unrhyw ddeddfwriaeth newydd yn eglur, yn gwbl ddwyieithog ac yn addas i’r diben. Hefyd bydd yr aelodau’n archwilio ai gwneud is- ddeddfwriaeth newydd yw’r ffordd orau o weithredu polisiau penodol. Aelodau’r Pwyllgor yw:  Karen Sinclair (Llafur), Alun Davies (Llafur), Irene James (Llafur), Sandy Mewies (Llafur), Janet Ryder (Plaid Cymru), Dai Lloyd (Plaid Cymru), Andrew RT Davies (Ceidwadwyr), Paul Davies (Ceidwadwyr) ac Eleanor Burnham (y Democratiaid Rhyddfrydol).