Y Cynulliad yn ethol pwyllgorau newydd i edrych ar ddeddfwriaeth arfaethedig

Cyhoeddwyd 27/02/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Cynulliad yn ethol pwyllgorau newydd i edrych ar ddeddfwriaeth arfaethedig

Mae’r Cynulliad wedi pleidleisio dros sefydlu dau bwyllgor i graffu ar y ddau Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol cyntaf (Gorchmynion a osodwyd gan Aelodau’r Cynulliad nad ydynt yn aelodau o’r Llywodraeth).

Bydd un o’r pwyllgorau, a sefydlwyd i graffu ar Orchymyn arfaethedig Jonathan Morgan ynghylch gwasanaethau iechyd meddwl, yn cynnwys Janice Gregory, Val Lloyd, Bethan Jenkins, David Melding a Jenny Randerson. Aelodau’r pwyllgor arall, a fydd yn craffu ar Orchymyn arfaethedig Ann Jones ynghylch diogelwch tân yn y cartref, fydd Huw Lewis, Sandy Mewies, Janet Ryder, Mark Isherwood a Peter Black.

Mae Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol yn fath o is-ddeddfwriaeth sy’n trosglwyddo pwerau penodol o Senedd y DU i’r Cynulliad. Rhoddwyd pwerau deddfu newydd i’r Cynulliad o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Gwaith y pwyllgorau fydd trafod a chyhoeddi adroddiad ar y Gorchmynion arfaethedig. Byddant yn ymgynghori’n gyhoeddus ac yn gwrando ar dystiolaeth gan randdeiliaid allweddol.

Mae gwybodaeth i newyddiadurwyr am swyddogaeth, cyfrifoldebau a phwerau deddfu newydd y Cynulliad ar gael ar-lein yn ein pecyn i’r cyfryngau.