Y Cynulliad yn gosod y safon am gefnogi staff sy’n cael eu cam-drin
21 Mehefin 2010
Heddiw (21 Mehefin), bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n lansio polisi cam-drin i staff gan ddefnyddio’r canllawiau a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru.
Nod y polisi, a ddatblygwyd gan adrannau Adnoddau Dynol a Chydraddoldeb a Mynediad y Cynulliad, yw darparu rhwydwaith o gefnogaeth i weithwyr sy’n dioddef o gam-drin domestig.
Bydd yn helpu gweithwyr i adnabod arwyddion o gam-drin domestig ac yn tynnu sylw at y cymorth a’r gefnogaeth sydd ar gael iddynt yn ogystal â darparu linc i grwpiau cymorth.
Yn y lansiad bydd Denise Puckett, un o weithwyr Llywodraeth Cymru sydd wedi goroesi cam-drin yn sôn wrth y staff am bwysigrwydd polisi cam-drin domestig a sut yr oedd cael cyflogwr cefnogol yn bwysig iddi.
Dywedodd Lorraine Barrett AC, Comisiynydd y Cynulliad Cynaliadwy “Mae datblygu’r polisi hwn yn nodi cam pwysig ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
“Fis diwethaf, y Cynulliad Cenedlaethol oedd y corff deddfu cyntaf yn y Deyrnas Unedig i ennill gwobr safon aur Buddsoddwyr mewn Pobl, sy’n dyst i’w ymrwymiad i werthfawrogi ei weithwyr.
“Mae datblygu polisi cam-drin domestig ar gyfer staff yn enghraifft arall o’r Cynulliad yn sicrhau bod gweithwyr yn cael y cymorth gorau posibl yn y gweithle.
“Rydym yn falch iawn bod y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn cefnogi’r polisi hwn, ac rydym yn gobeithio ei fod yn annog cyrff eraill i fabwysiadu polisïau tebyg.”
Dywedodd Kate Bennett, Cyfarwyddwr y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru: “Mae hwn yn newyddion da iawn. Rydym yn annog pob cyflogwr yng Nghymru i gymryd camau fel hyn fel y gall staff gadw eu swyddi, teimlo’n ddiogel yn y gweithle, a theimlo bod eu cyflogwyr yn eu cefnogi.
“Mae cam-drin domestig yn fusnes i bawb ac yn fater ar gyfer pob gweithle. Bydd un o bob pedair menyw yn profi cam-drin domestig yn ystod eu hoes, a phob wythnos mae o leiaf dwy fenyw yn cael eu lladd gan bartner neu gynbartner treisgar.
“Mae’n ymwneud â chyflogwyr yn cymryd camau bach a fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau eu staff. Bydd gweithredu polisi cam-drin domestig yn y gweithle nid yn unig yn lleihau absenoldeb oherwydd salwch ond, yn bwysicach, bydd yn achub bywydau.”
Mae gwaith ymchwil yn dangos:
· Bod 75% o fenywod sy’n dioddef o gam-drin domestig yn cael eu targedu yn y gwaith – o alwadau ffôn sy’n poenydio a gwyr ymosodol yn cyrraedd y gweithle heb wahoddiad, i ymosodiadau corfforol.
· Bod cam-drin domestig yn costio dros £2.7 biliwn y flwyddyn i fusnesau yn y Deyrnas Unedig.
· Bob blwyddyn yn y Deyrnas Unedig, mae mwy nag 20% o fenywod cyflogedig yn cymryd amser i ffwrdd o’u gwaith oherwydd cam-drin domestig, ac mae 2% yn colli’u swyddi o ganlyniad i’r cam-drin.