Y Cynulliad yn gwella’i safle ar restr Stonewall o leoedd hoyw-gyfeillgar i weithio (1)

Cyhoeddwyd 14/01/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Cynulliad yn gwella’i safle ar restr Stonewall o leoedd hoyw-gyfeillgar i weithio

Gosodwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 47ain yn y 100 uchaf o leoedd hoyw-gyfeillgar i weithio yn y DU.

Mae’r Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle, sy’n cael ei gynhyrchu gan y sefydliad hawliau cyfartal, Stonewall, yn ymchwilio i strategaethau corfforaethol, rhwydweithiau lesbiaidd, hoyw a deurywiol staff, ymgysylltiad a datblygiad staff, ac adborth cadarnhaol.

Y llynedd gosodwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 73ain a hefyd enillodd y wobr am  ‘Y cyflogwr sydd wedi gwella fwyaf yng Nghymru’.

Dywedodd Lorraine Barrett AC, y Comisiynydd dros y Cynulliad Cynaliadwy: “Rwy’n falch iawn ein bod wedi cael ein gosod yn y 47ain safle ar fynegai Stonewall.  

“Mae’n dangos ein hymrwymiad parhaus i ddarparu gweithle lle mae ein staff i gyd yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi.

“Fel erioed, bydd y safle hwn yn ein hannog i wneud mwy fyth yn y dyfodol er mwyn sicrhau bod cydraddoldeb a chynhwysiant wrth wraidd y ffordd yr ydym yn gweithio ac yn datblygu.

“Gobeithio y bydd ein hymdrechion yn annog cwmnïau a sefydliadau eraill yng Nghymru i ddilyn ein hesiampl.”

. Dywedodd Liz Morgan, Cyfarwyddwr Stonewall Cymru: “Llongyfarchiadau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a’r holl gyflogwyr eraill yng Nghymru a sicrhaodd eu lle ar restr 100 Uchaf Stonewall 2010 gan fod y gystadleuaeth yn fwy ffyrnig nag erioed.

“Cawsom fwy o geisiadau nag erioed o’r blaen gan gyflogwyr yng Nghymru sy’n deall a sydd wedi cael budd o ymchwil Stonewall a ganfu fod pobl hoyw yn llawer mwy tebygol o brynu nwyddau neu wasanaethau gan gwmnïau y maent yn gwybod sy’n hoyw-gyfeillgar.

“Mae’r Mynegai yn offeryn grymus a ddefnyddir gan 1.7 miliwn o weithwyr cyflogedig a chan 150,000 o fyfyrwyr prifysgol ym Mhrydain sy’n hoyw, i benderfynu ble i gyfeirio eu talentau a’u sgiliau.”

Mae rhagor o wybodaeth am Fynegai Cydraddoldeb yn y Gwaith Stonewall ar gael yma.

Mae rhagor o wybodaeth am gydraddoldeb yn y Cynulliad Cenedlaethol ar gael yma.