Y Cynulliad yn gwella’i safle ar restr Stonewall o leoedd hoyw-gyfeillgar i weithio

Cyhoeddwyd 12/01/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Cynulliad yn gwella’i safle ar restr Stonewall o leoedd hoyw-gyfeillgar i weithio

12 Ionawr 2011

Gosodwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 42ain yn y 100 uchaf o leoedd hoyw-gyfeillgar i weithio yn y DU, sef pum safle yn uwch na llynedd.

Mae’r Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle, sy’n cael ei gynhyrchu gan y sefydliad hawliau cyfartal, Stonewall, yn ymchwilio i strategaethau corfforaethol, rhwydweithiau i staff lesbiaidd, hoyw a deurywiol, ymgysylltiad a datblygiad staff, ac adborth cadarnhaol.

Y llynedd gosodwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 47ain.

Dywedodd Lorraine Barrett AC, Comisiynydd y Cynulliad Cynaliadwy: “Rwy’n falch iawn ein bod wedi cael ein gosod yn y 42ain safle ar fynegai Stonewall.

“Mae’n dangos ein hymrwymiad parhaus i ddarparu gweithle lle mae ein staff i gyd yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi.

“Fel erioed, bydd y safle hwn yn ein hannog i wneud mwy fyth yn y dyfodol er mwyn sicrhau bod cydraddoldeb a chynhwysiant wrth wraidd y ffordd yr ydym yn gweithio ac yn datblygu.

“Gobeithio y bydd ein hymdrechion yn annog cwmnïau a sefydliadau eraill yng Nghymru i ddilyn ein hesiampl.”

Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Stonewall Cymru: “Llongyfarchiadau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, sydd wedi codi pum safle. Mae hyn yn llwyddiant rhagorol.

“Roedd y gystadleuaeth i gael lle ar restr 2011 yn fwy ffyrnig nag erioed. Cawsom fwy o geisiadau nag erioed o’r blaen gan gyflogwyr sy’n deall bod pobl yn gweithio’n well pan allant fod yn nhw eu hunain.

“Mae gwaith ymchwil Stonewall wedi canfod bod pobl hoyw yn llawer mwy tebygol o brynu nwyddau neu wasanaethau gan gwmnïau y maent yn gwybod sy’n hoyw-gyfeillgar. Mae’r mynegai yn offeryn grymus a ddefnyddir gan 1.7 miliwn o weithwyr cyflogedig a chan 150,000 o fyfyrwyr prifysgol ym Mhrydain sy’n hoyw, i benderfynu ble i gyfeirio eu talentau a’u sgiliau.”

Mae rhagor o wybodaeth am Fynegai Cydraddoldeb yn y Gwaith Stonewall ar gael yma.