Y Cynulliad yn lansio gwell gwasanaethau E-ddemocratiaeth

Cyhoeddwyd 15/04/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Cynulliad yn lansio gwell gwasanaethau E-ddemocratiaeth

Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn lansio ei wasanaethau e-ddemocratiaeth gwell ddydd Mawrth, Ebrill 15fed am 12.00 yn y Senedd.

Bydd y gwasanaethau, yn cynnwys system e-ddeisebu newydd, senedd.tv, gwell gwasanaeth gweddarlledu, e-fforymau a chyfleuster “pleidleisio sydyn” ar gyfer ymgynghoriadau ar-lein ar gyfer ymchwiliadau pwyllgor megis yr ymchwiliad presennol i Ganiatâd Tybiedig ar gyfer Rhoi Organau yn cael eu lansio gan Peter Black AC, Comisiynydd y Cynulliad a’r Dinesydd.

Mae’r system e-ddeiseb yn cael ei lansio yn dilyn dechrau llwyddiannus i’r system ddeisebu, a lansiwyd ym mis Mai 2007 gyda’r bwriad o annog deialog ehangach rhwng y Cynulliad a phobl Cymru. Bydd arddangosfa o’r gwasanaeth e-ddeisebau newydd gyda gwybodaeth ar sut i gyflwyno e-ddeiseb a sut i lofnodi e-ddeiseb ynghyd ag arddangosfa ar wasanaeth gweddarlledu’r senedd a’r e-fforymau a’r cyfleusterau pleidleisio sydyn i’w gweld.              

Bydd pleidleisio ar-lein ar gyfer “Cewri Cymru”, sef cais y Cynulliad i ganfod hoff berson y genedl hefyd yn cael ei lansio.  Yn ystod mis Chwefror, gwnaethpwyd awgrymiadau gan ymwelwyr â’r Senedd ynglyn â’u harwyr a chyhoeddwyd rhestr fer o’r deg enw mwyaf poblogaidd (yn cynnwys Ray Gravell, Katherine Jenkins, James Hook, Hywel Dda a Joe Calzaghe) ar Ddydd Gwyl Dewi.  Bydd y pleidleisio yn parhau tan fis Awst pan fydd yr enillydd o blith “Cewri Cymru” yn cael ei gyhoeddi yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd.

Dywedodd Peter Black AC: “Mae’r Cynulliad wedi ymrwymo i ddefnyddio’r dulliau mwyaf modern a chynhwysol  sydd ar gael i helpu pobl i ddeall, i ymgysylltu ac i gymryd rhan mewn democratiaeth yng Nghymru. Mae i e-ddemocratiaeth nifer o fanteision: y posibilrwydd o ymgysylltu â phobl nad ydynt yn cymryd diddordeb yn y Cynulliad yn arferol; mae gan wasanaethau megis e-ddeisebu y gallu i gyrraedd cymaint yn fwy o bobl na deiseb bapur draddodiadol ac mae’n gwneud y gwaith o gyflwyno deisebau yn llawer symlach ac mae teledu.senedd yn gwneud gwylio trafodion y Cynulliad yn llawer iawn mwy cyraeddadwy i bobl, nid yn unig yng Nghymru ond dros y byd yn gyfan. Er mwyn ymgysylltu’n gyflawn gyda phobl Cymru y mae angen i ni ac rydym yn awyddus, i weithio mewn partneriaeth gyda’r ‘e’ gymuned.”