Y Cynulliad yn pleidleisio o blaid egwyddorion y Bil Senedd ac Etholiadau i ostwng oed pleidleisio a newid ei enw

Cyhoeddwyd 10/07/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/07/2019

Mae Aelodau'r Cynulliad wedi pleidleisio o blaid egwyddorion cyffredinol y Bil Senedd ac Etholiadau. Mae'r cam yn paratoi'r ffordd i'r Bil symud ymlaen i gam nesaf y broses ddeddfwriaethol.

Mae'r Bil yn cynnig gostwng yr oedran pleidleisio ar gyfer etholiadau'r Cynulliad, newid enw'r Cynulliad yn ogystal â newid rhai rheolau etholiadol.

Dywedodd y Llywydd, fel yr aelod sy'n gyfrifol am y Bil ar ran Comisiwn y Cynulliad;

“Rwy'n ddiolchgar i’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a'r Pwyllgor Cyllid am drafod y Bil yn drylwyr, ac i bawb sydd wedi cymryd rhan wrth ddatblygu'r Bil hwn a'i waith craffu.

Amcan cyffredinol y Bil hwn yw creu Senedd fwy effeithiol a hygyrch, gan sicrhau bod fframwaith ein democratiaeth yn addas at y diben.

Mae'r Bil hwn yn gam sylweddol i'r cyfeiriad hwnnw, ac rwy’n croesawu’r ffaith bod y Cynulliad wedi cytuno ar ei egwyddorion cyffredinol.“

Bydd Cam 2 y Bil yn dechrau yn yr Hydref.