Y Ddeddf Gymreig gyntaf yn cael ei gwneud yn gyfraith

Cyhoeddwyd 12/11/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Ddeddf Gymreig gyntaf yn cael ei gwneud yn gyfraith

12 Tachwedd 2012

Bydd y Bil Cymreig cyntaf i gael ei basio o dan bwerau deddfwriaethol newydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cael Cydsyniad Brenhinol heddiw (Dydd Llun 12 Tachwedd), mewn seremoni hanesyddol yng Nghaerdydd.

Cyflwynwyd Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) gan Gomisiwn y Cynulliad Cenedlaethol gan ei fod am gydnabod Cymraeg a Saesneg fel ieithoedd swyddogol yn nhrafodion y Cynulliad.

Daeth yn gyfraith pan gafodd y Sêl Gymreig ei gosod ar y breinlythyrau gan Carwyn Jones, y Prif Weinidog, a lofnodwyd gan Ei Mawrhydi i ddangos ei bod yn cydsynio iddi, a hysbyswyd Clerc y Cynulliad Cenedlaethol.

Dywedodd Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru: “Ym mis Mawrth 2011, dangosodd pobl Cymru eu cefnogaeth gref i roi pwerau deddfu llawn i’r Cynulliad.”

“Heddiw, cafodd Deddf gyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru Gydsyniad Brenhinol. Pa mor briodol ydyw bod ein Deddf gyntaf fel corff deddfu llawn yn gosod statws cyfartal ar y Gymraeg a Saesneg fel ieithoedd swyddogol yn nhrafodion y Cynulliad?

“Cafodd y Bil ei gyflwyno gennyf fi a fy nghyd-Aelodau ar Gomisiwn y Cynulliad Cenedlaethol, oherwydd roeddem o’r farn ei bod yn hanfodol, wrth i’n system ddemocrataidd dyfu ac aeddfedu, bod y Gymraeg a’r Saesneg yn cael eu hystyried yn ieithoedd swyddogol yn ein corff deddfu cenedlaethol. Ni ellir cwestiynu ein hymrwymiad i’r Gymraeg bellach, o ganlyniad i’r ddeddfwriaeth hon.

“Bymtheg mlynedd yn ôl, ni fyddai wedi bod yn bosibl dychmygu gwleidyddion, a etholwyd gan etholwyr yng Nghymru, yn drafftio deddfwriaeth a’i osod ar y llyfrau statud mewn cyn lleied o amser.

“Heddiw, dylai pob un ohonom deimlo’n rhan o hanes - diwrnod pan fo’r Cynulliad yn llwyddo i gwblhau’r mandad a osodwyd arno gan bobl Cymru yn 2011.

“Hynny yw, bod cynrychiolwyr, a etholwyd yn uniongyrchol gan bleidleiswyr yng Nghymru, yn gwneud cyfreithiau i Gymru.”

Dywedodd Rhodri Glyn Thomas AC, y Comisiynydd sydd â chyfrifoldeb am y Gymraeg a phasio'r Bil:

"Ar y diwrnod hanesyddol hwn, rwy’n ymfalchïo yn yr eisampl mae’r Comisiwn yn gosod i sefydliadau sy'n gweithio ledled Cymru yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat ar sut i drin dwyieithrwydd.

"Fel yr Aelod â chyfrifoldeb am y Bil, ac ar ran y Comisiwn, hoffwn ddiolch i Aelodau'r Cynulliad a'r cyhoedd am weithio gyda ni ar ei ddatblygiad. Rydym wedi gwrando arnoch chi ac yn hyderus bod y ddeddfwriaeth hon yn egluro i bawb beth yw ein cyfrifoldebau a'n hymrwymiad i hyrwyddo dwyieithrwydd yng ngweithgaredd y Cynulliad.”

Dywedodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru a Cheidwad y Sêl Gymreig: “Pan bleidleisiodd pobl Cymru yn y refferendwm y llynedd i roi pwerau deddfu i’r Cynulliad Cenedlaethol, dywedais fod Cymru yn hen wlad, ond yn ddemocratiaeth ifanc.

“Mae heddiw yn ddiwrnod hanesyddol i ni fel gwlad. Mae’n nodi cyfnod newydd yn hanes Llywodraethu yng Nghymru.

“Dros y misoedd a’r blynyddoedd sydd i ddod, edrychaf ymlaen i’n rhaglen ddeddfwriaethol uchelgeisiol gael Cydsyniad Brenhinol fel y gallwn barhau i gyflawni ein hymrwymiadau er mwyn gwneud Cymru yn wlad ffyniannus, iach a dynamig.”