Y Dirprwy Lywydd i annerch Cynhadledd ar Bwerau Deddfwriaethol Newydd yng Nghymru 2007

Cyhoeddwyd 08/11/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Dirprwy Lywydd i annerch Cynhadledd ar Bwerau Deddfwriaethol Newydd yng Nghymru 2007

Bydd Rosemary Butler AC, Dirprwy Lywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn annerch fforwm busnes a fydd yn edrych ar y pwnc “Pwerau Deddfwriaethol Newydd yng Nghymru 2007: Cyfleoedd a Bygythiadau” yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ddydd Iau 8 Tachwedd.

Mrs Butler a fydd yn traddodi araith gyweirnod y gynhadledd a bydd yn sôn am brosesau deddfwriaethol newydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru a sut y gall busnes gyfrannu at gyflwyno a chraffu ar ddeddfwriaeth newydd.

Ymhlith llefarwyr eraill y gynhadledd bydd Keith Bush, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru a chynrychiolwyr o Gydffederasiwn Diwydiant Prydain, Ffederasiwn Busnesau Bach, a’r Sefydliad Materion Cymreig.

Meddai Mrs Butler: “Rwyf wrth fy modd fy mod wedi cael fy ngwahodd i siarad mewn cynhadledd mor bwysig. Mae’r gynhadledd hon yn rhoi cyfle ardderchog i edrych ar sut y gall busnes gyfrannu at lunio deddfwriaeth newydd ac at waith y Cynulliad ei hun wrth graffu ar waith y Llywodraeth, ac edrychaf ymlaen at y cyfle i sicrhau help arweinwyr busnes i weithio gyda’r Cynulliad er lles Cymru.”