Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol cyntaf i gael ei gynnig gan Aelod Cynulliad.

Cyhoeddwyd 18/02/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol cyntaf i gael ei gynnig gan Aelod Cynulliad.

Heddiw, cyflwynodd Jonathan Morgan AC y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig cyntaf i gael ei gynnig gan AC sydd ddim yn aelod o’r Llywodraeth. Enillodd Mr Morgan falot ymhlith Aelodau’r Cynulliad a oedd yn caniatáu iddo gyflwyno Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol.  

Math o is-ddeddfwriaeth yw Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol sy’n trosglwyddo pwerau penodol o’r Senedd i’r Cynulliad. Yn ymarferol, bydd hyn yn golygu y bydd pob Gorchymyn Cymhwyster Deddfwriaethol yn ychwanegu mater arall i’r maes perthnasol yn Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, gan roi pwerau i’r Cynulliad wneud Mesurau yn y meysydd polisi sydd wedi’u diffinio gan y mater. Os daw Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol yn ddeddf, bydd yn trosglwyddo pwerau penodol dros iechyd meddwl o San Steffan i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Y bwriad yw diogelu hawliau penodol cleifion mewn deddfwriaeth, gan gynnwys:

  • hawl i gael eu hasesu ac i gael triniaeth mewn lleoliad therapiwtig cyn y bydd yn rhaid eu gorfodi i gael triniaeth gan mai dyna’r unig ffordd i sicrhau eu bod yn ddiogel  

  • hawl i gleifion gael gwasanaeth eirioli annibynnol

Dywedodd Jonathan Morgan: “Mae’n hen bryd diwygio deddfwriaeth iechyd meddwl. Rwy’n ymfalchïo yn y ffaith mai fi fydd yr Aelod Cynulliad cyntaf i gyflwyno cynigion at y diben hwnnw.

“Mae un o bob pedwar o bobl yn ddioddef rhyw fath o salwch meddwl yn ystod eu hoes – ac yn achos llawer o’r rheini sy’n cael eu hatal o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl, gellid bod wedi’u hasesu a’u trin cyn cymryd y cam olaf hwnnw. Mae’n ddyletswydd arnom i sicrhau bod y gofal a gynigiwn yn addas ac o safon uchel a’n bod yn trin cleifion gydag urddas a pharch.  

“Rwy’n credu erioed mai diwygio iechyd meddwl yw’r ymgyrch fawr olaf ym maes diwygio cymdeithasol yn ein gwlad. Mae’r diwygio’r maes hwn yn hanfodol os ydym am alw’n hunain yn gymdeithas wâr.”