Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ynghylch yr iaith Gymraeg yn cymryd cam arall ymlaen – San Steffan yw’r cam nesaf

Cyhoeddwyd 04/11/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ynghylch yr iaith Gymraeg yn cymryd cam arall ymlaen – San Steffan yw’r cam nesaf

4 Tachwedd 2009

Mae Cymru wedi cymryd cam arall tuag at gael pwerau deddfu dros yr iaith Gymraeg.

Cymeradwyodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol (Yr Iaith Gymraeg) 2009 ar ffurf drafft heddiw (3 Tachwedd). Bydd hyn yn golygu y gellir trosglwyddo pwerau o San Steffan i’r Cynulliad.

Yn y cam nesaf, bydd Peter Hain, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn cyflwyno’r Gorchymyn drafft i Dy’r Cyffredin a Thy’r Arglwyddi er mwyn iddynt ei gymeradwyo.  

Cyflwynwyd y Gorchymyn arfaethedig ynghylch yr iaith Gymraeg yn wreiddiol gan Alun Ffred Jones AC, y Gweinidog dros Dreftadaeth, ym mis Chwefror eleni.

Ar ôl ymchwiliad o bum mis, penderfynodd Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5 y dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru gael y sgôp ehangaf bosibl o ran y pwerau i ddeddfu dros yr iaith Gymraeg. Clywodd dystiolaeth gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg, Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, BT Cymru a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg, ymysg eraill, yn ogystal â sefydliadau a chynrychiolwyr busnes eraill o’r sector gwirfoddol.

Unwaith y bydd San Steffan yn cymeradwyo’r Gorchymyn, gall y Cynulliad ddeddfu ar yr iaith Gymraeg. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi ei chynlluniau i gyflwyno Mesur arfaethedig ar yr iaith Gymraeg cyn tymor yr haf 2010.

Nodiadau i Olygyddion:

Cewch fwy o wybodaeth am Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Yr Iaith Gymraeg) 2009 yma.

Mae gwasanaethau cyfreithiol y Cynulliad wedi paratoi nodyn briffio ar y gwahaniaethau rhwng y Gorchymyn drafft a’r Gorchymyn arfaethedig y craffwyd arno gan y Pwyllgor Deddfwriaeth:

http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-chamber/bus-chamber-third-assembly-agendas.htm?act=dis&id=150423&ds=11/2009

Cewch hyd i ganllawiau ar y broses o gyflwyno Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol yma.