Y Gymraeg a'r Saesneg yn ieithoedd swyddogol y Cynulliad ar ôl i Aelodau'r Cynulliad basio Bil hanesyddol

Cyhoeddwyd 03/10/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Gymraeg a'r Saesneg yn ieithoedd swyddogol y Cynulliad ar ôl i Aelodau'r Cynulliad basio Bil hanesyddol

3 Hydref 2012

nt34Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi pasio Bil Ieithoedd Swyddogol (Cymru) yn gyfraith.

Drwy gydnabod y Gymraeg a'r Saesneg yn ieithoedd swyddogol, ar ôl cael Cydsyniad Brenhinol, bydd y Bil yn gosod dyletswydd statudol ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Chomisiwn y Cynulliad i drin y ddwy iaith yn gyfartal.

"Mae heddiw yn ddiwrnod hanesyddol yn hanes datganoli a hanes Cymru," dywedodd Rosemary Butler AC, y Llywydd.

"Bellach, caiff y Gymraeg a'r Saesneg eu hystyried yn ieithoedd swyddogol yn nhrafodion y Cynulliad. Mae'r Bil yn gosod dyletswydd statudol i drin y ddwy iaith yn gyfartal wrth i'r Comisiwn ddarparu gwasanaethau i'r Cynulliad ac i'r cyhoedd.

"Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau dwyieithog rhagorol. Mae'r Bil hwn yn amlinellu'r egwyddorion a fydd yn sail i sut fydd y Comisiwn yn darparu gwasanaethau dwyieithog gwell byth. Bellach, ni ellir amau ein hymrwymiad i'r Gymraeg.

Dywedodd Rhodri Glyn Thomas AC, y Comisiynydd sydd â chyfrifoldeb am y Gymraeg a phasio'r Bil:

"Mae'r Bil yn gosod esiampl i sefydliadau sy'n gweithio ledled Cymru yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat o sut i drin dwyieithrwydd.

"Fel yr Aelod â chyfrifoldeb am y Bil, ac ar ran y Comisiwn, hoffwn ddiolch i Aelodau'r Cynulliad a'r cyhoedd am weithio gyda ni ar ddatblygiad y Bil. Rydym wedi gwrando arnynt ac yn hyderus bod y ddeddfwriaeth hon yn egluro i bawb beth yw ein cyfrifoldebau a'n hymrwymiad."

Mae'r Bil yn gosod dyletswydd ar Gomisiwn y Cynulliad i lunio Cynllun Iaith Gymraeg i sicrhau statws cyfartal i'r ddwy iaith.

Bydd y cynllun yn:

  1. ·nodi'n eglur mai'r Gymraeg a'r Saesneg yw ieithoedd swyddogol y Cynulliad ac y dylid eu trin yn gyfartal;

  2. ·amlinellu'r trefniadau ymarferol a fydd yn galluogi'r Cynulliad i weithredu'n ddwyieithog;

  3. ·gwarantu hawl pawb sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Cynulliad (tystion a swyddogion yn ogystal ag Aelodau) i wneud hynny yn unrhyw un o ieithoedd swyddogol y Cynulliad;

  4. ·amlinellu sut bydd y Cynulliad yn darparu gwasanaethau dwyieithog i'r cyhoedd;

  5. ·amlinellu sut bydd trefniadau corfforaethol y Cynulliad yn galluogi ac yn cefnogi ei uchelgeisiau i ddarparu gwasanaethau dwyieithog; ac

  6. ·esbonio gweithdrefn y Cynulliad ar gyfer ymdrin â chwynion o beidio â chydymffurfio â'r cynllun, naill ai gan Aelodau neu'r cyhoedd.

"Bydd ein Cynllun yn arddangos ffordd arloesol ac ymarferol o ddatblygu gwasanaethau dwyieithog a bydd yn ehangu ar y gwasanaethau rhagorol o ansawdd uchel yr ydym eisoes yn eu darparu," ychwanegodd Mr Thomas.