Y Llywydd i gyflwyno cofeb Armenaidd

Cyhoeddwyd 02/11/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Llywydd i gyflwyno cofeb Armenaidd

Bydd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn siarad mewn seremoni i ddadorchuddio cofeb i’r rhai a gollodd eu bywydau yn hil-laddiad yr Armeniaid yn1915.

Codwyd y gofeb, fydd yn sefyll yng ngerddi’r Deml Heddwch yng Nghaerdydd gan Gymdeithas Cymru-Armenia a bydd yn cael ei chysegru mewn gwasanaeth a arweinir gan Ei Ras yr Esgob Nathan Hoyhannisian, Llysgennad y Pab ac Archesgob Eglwys Apostolaidd Armenaidd Prydain Fawr. Bydd Ei Ras David Yeoman, Esgob Cynorthwyol Llandaf, a’r Parchedig Stuart Windsor Cyfarwyddwr Cenedlaethol Undod Cristnogol Byd-eang hefyd yn bresennol.

Dyma’r tro cyntaf yn y DU i ddarn o dir cyhoeddus gael ei roi ar gyfer cofeb Armenaidd a hon yw’r gofeb gyntaf a gomisiynwyd gan bobl nad ydynt o dras Armenaidd yn y DU.

Bydd yr Arglwydd Elis-Thomas yn derbyn khatchkar, sef croes farmor, ar ran pobl Cymru. Dywedodd “Mae hi’n anrhydedd fawr gennyf i dderbyn y khatchkar, ac i gyflwyno’r groes er cof am y bobl hynny o Armenia a gollodd eu bywydau yn yr hil-laddiad.

Mae perthynas Cymru  ag un o’r gwladwriaethau hynaf yn y byd, a’r Eglwys Gristnogol hynaf, yn bodoli ers canrifoedd  ac mae’r ffaith fod yr arian ar gyfer y gofeb hardd hon wedi’i godi’n gyfan gwbl gan Armeniaid Cymru ac y bydd y gofeb yn cael lle neilltuedig yma yn y Deml Heddwch, yn adlewyrchu diddordeb byw y Cymry yn hanes Armenia.”

Cynhelir y gwasanaeth yn y Deml Heddwch, Parc Cathays, Caerdydd am 12.30pm ddydd Sadwrn, Tachwedd 3.