Y Llywydd i hyrwyddo Senedd fodern, ddwyieithog Cymru mewn anerchiad allweddol yn Valencia

Cyhoeddwyd 02/05/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/07/2018

Bydd y Llywydd yn annerch cynrychiolwyr o seneddau ledled yr UE yr wythnos hon, ac yn dangos sut y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn arloesi o ran darparu gwasanaethau dwyieithog. Mae Elin Jones AC ar ymweliad swyddogol â Valencia fel rhan o aelodaeth y Cynulliad o Gynhadledd Cynulliadau Deddfwriaethol Rhanbarthol Ewrop (CALRE) rhwng 3 a 4 Mai 2018.

Yn ystod ei hymweliad, bydd y Llywydd yn traddodi araith allweddol i gynulleidfa o seneddwyr Ewropeaidd ac arbenigwyr ieithyddol. Bydd yn amlygu i ba raddau y mae’r Gymraeg, un o'r ieithoedd byw hynaf yn Ewrop, yn cael ei hyrwyddo a’i defnyddio, ac yn greiddiol i ddemocratiaeth fodern Gymreig y genedl.

Meddai'r Llywydd "Nawr, yn fwy nag erioed, mae'n bwysig bod y Cynulliad yn meithrin ei berthynas â seneddau ar draws Ewrop. Wrth inni baratoi i adael yr UE, mae diogelu’r gallu i rannu a dysgu am brofiadau cynulliadau Ewropeaidd eraill yn hanfodol os ydym am ddarparu'r gwasanaethau gorau i bobl Cymru. Mae'n bleser gennyf hyrwyddo ein darpariaeth arloesol o wasanaethau dwyieithog, ac rwy'n gobeithio y bydd y gynulleidfa'n ystyried y cipolwg o’n cenedl ddwyieithog yn ddiddorol ac yn ddefnyddiol."

Bydd y Llywydd hefyd yn manteisio ar y cyfle i ymweld â Senedd Catalonia yn Barcelona lle bydd yn cyfarfod â'r llefarydd (y Llywydd) Roger Torrent. Mae’r ymweliadau yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau ac ymweliadau, sydd hefyd yn cynnwys dirprwyaethau o Fflandrys a Gwlad y Basg, gyda’r pwrpas o roi cyfle i gynnal a gwella'r cysylltiadau rhyng-seneddol da sydd eisoes yn bodoli. Yn fwy diweddar, fel rhan o’r rhaglen hon, mae’r Llywydd wedi croesawu nifer o ymwelwyr diplomyddol pwysig gan gynnwys Uchel-Gomisiynydd India, Llysgennad Gwlad Belg ac Asiant Cyffredinol Quebec.