Y Llywydd yn anfon sgrôl y Jiwbilî i nodi 60fed flwyddyn y Frenhines ar yr orsedd

Cyhoeddwyd 29/05/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Y Llywydd yn anfon sgrôl y Jiwbilî i nodi 60fed flwyddyn y Frenhines ar yr orsedd

29 Mai 2012

Mae Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wedi anfon anrheg at y Frenhines ar ran y Cynulliad Cenedlaethol i nodi ei Jiwbilî Ddiemwnt.

Ar 5 Mehefin, bydd Brenhines Elisabeth II yn dathlu 60 mlynedd ar yr orsedd a bydd hyn yn cael ei nodi gan ddigwyddiadau a phartïon ledled Cymru.

I nodi’r achlysur, mae’r Llywydd yn anfon sgrôl goffa yn Gymraeg ac yn Saesneg, a bydd copi ohoni yn cael ei arddangos yn y Senedd tan 15 Mehefin.

Dywedodd Mrs Butler, “Mae’n briodol bod pobl Cymru yn cydnabod y gwaith sylweddol y mae’r Frenhines wedi ei wneud dros Gymru dros y 60 mlynedd y mae wedi bod ar yr orsedd.”

“Gwn fod cymunedau ledled Cymru yn gwneud gwahanol bethau i nodi’r garreg filltir hon.

“Credaf ei bod yn briodol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru nodi’r Jiwbilî ar ran holl bobl Cymru.”

Dyluniwyd a chrëwyd y sgrôl gan Ieuan Rees, y caligraffydd clodfawr o Sir Gaerfyrddin.

Graddiodd Ieuan o’r Coleg Celf Brenhinol gyda Gradd Meistr mewn Cynllunio ym 1967 ac mae wedi gweithio fel artist/crefftwr ar ei liwt ei hun ers dros 40 o flynyddoedd.


Fe’i ystyrir yn un o artistiaid/crefftwyr mwyaf amryddawn Prydain ym meysydd llythrennu, cerfio llythrennau, caligraffi, llythrennu pensaernïol a chyfathrebu graffig.

Dywedodd Mr Rees: “Roedd hi’n anrhydedd bod Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi gofyn i mi ddylunio sgrôl goffa ar ran y ddeddfwrfa i nodi Jiwbilî Ddeimwnt Ei Mawrhydi Y Frenhines.

“Mae’r cynllun, er yn fwriadol yn syml ac urddasol, wedi’i grefftio i nodi diffuantrwydd neges Rosemary ar ran y Cynulliad i’w Mawrhydi am y cyflawniad hynod hwn.”

Bydd y Llywydd yn anfon llythyr gyda’r sgrôl yn llongyfarch y Frenhines ar ei Jiwbilî Ddiemwnt.

Jubilee scroll