Y Llywydd yn cael ei chydnabod gan St John Cymru

Cyhoeddwyd 23/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 30/07/2014

Mae Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, y Fonesig Rosemary Butler AC, wedi cael ei hanrhydeddu am ei hymroddiad i St John Cymru.

Cafodd ei hurddo i Urdd Sant Ioan yn Eglwys Gadeiriol Llandaf ddydd Sadwrn 21 Mehefin.

Mae Urdd Sant Ioan yn cynrychioli ochr hanesyddol St John yn rhyngwladol. Fe'i sefydlwyd fel Urdd Sifalri Brenhinol yn 1888, a'r Frenhines yw ei phennaeth sofran. Mae'n eistedd ochr yn ochr â St John Cymru, yr elusen.

Mae'r Fonesig Rosemary wedi cael ei hanrhydeddu am ei chymorth o ran ychwanegu cymorth cyntaf at y fframwaith addysg bersonol a chymdeithasol yng nghwricwlwm Cymru, ac am godi ymwybyddiaeth o St John Cymru yn y Senedd.

"Mae'n anrhydedd mawr i gael fy nerbyn i Urdd Sant Ioan gan Ei Mawrhydi," dywedodd y Llywydd.

"Mae St John Cymru yn gwneud gwaith gwych o ran darparu gwasanaeth cymorth cyntaf mewn digwyddiadau mawr, yn ogystal ag addysgu a hyrwyddo cymorth cyntaf ar draws y wlad."

Dywedodd Prif Weithredwr St John Cymru, Keith Dunn, "Cafodd tua 100 o'n cefnogwyr a gwirfoddolwyr eu hanrhydeddu yn y seremoni, am eu gwasanaeth a'u hymroddiad i gymorth cyntaf.

"Cafodd y Fonesig Rosemary ei hanrhydeddu am ei chymorth o ran ychwanegu cymorth cyntaf at y fframwaith addysg bersonol a chymdeithasol yng nghwricwlwm Cymru, ac am godi ymwybyddiaeth o'r elusen yn y Senedd.

"Ein nod yw cael swyddog cymorth cyntaf ar bob stryd yng Nghymru ac mae ein cefnogwyr a gwirfoddolwyr yn ein helpu i gyflawni hyn."