Y Llywydd yn cefnogi’r Adar Gleision

Cyhoeddwyd 24/02/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Y Llywydd yn cefnogi’r Adar Gleision

24 Chwefror 2012

Mae Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn gobeithio y bydd Dinas Caerdydd yn ennill gêm derfynol Cwpan Carling ddydd Sul.

Bydd yr Adar Gleision yn chwarae yn erbyn Lerpwl, y cewri o’r Uwch Gynghrair, yn stadiwm Wembley yn eu hail gêm derfynol fawr mewn pedair blynedd.

Dywedodd Mrs Butler: “Mae Caerdydd wedi gwneud yn wych i gyrraedd y rownd derfynol”.

“Rwyf yn dymuno pob lwc i Malky Mackay a’i dîm, a gobeithio y byddant yn dod â’r gwpan yn ôl i Gymru.”