Y Llywydd yn cefnogi'r Elyrch yn rownd derfynol Cwpan y Gynghrair
22 Chwefror 2013
Bydd Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn cefnogi Clwb Pêl-droed Abertawe yn rownd derfynol Cwpan Capital One ddydd Sul (24 Chwefror).
Bydd y Swans yn wynebu Bradford City yn Stadiwm Wembley. Dyma'r tro cyntaf yn hanes y clwb iddynt gyrraedd y rownd derfynol mewn cystadleuaeth gwpan mawr.
Dywedodd Mrs Butler: "Mae Abertawe wedi gwneud yn anhygoel o dda i gyrraedd y rownd derfynol.
"Rwy'n dymuno pob lwc i Michael Laudrup ac rwy'n gobeithio y gallan nhw ddod â'r gwpan yn ôl i Gymru."